<p>Cyfraddau Canfod Canser</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 21 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:42, 21 Mehefin 2016

Wel, y claf, wrth gwrs, sy’n bwysig ynglŷn â beth sy’n digwydd fan hyn. Ond, a gaf i ddweud, ynglŷn â phrofion diagnostig, er enghraifft, rydym wedi gweld gwellhad sylweddol yn y flwyddyn ddiwethaf? Mae’r ffigurau o Ebrill 2016, er enghraifft, 23 y cant yn is nag Ebrill y llynedd, a 40 y cant yn is na’r pwynt uchaf ym mis Gorffennaf y llynedd. Beth sy’n bwysig, wrth gwrs, yw bod y profion yn cael eu delio â nhw a bod canlyniadau yn dod yn ôl cyn gynted â phosibl.