<p>Cyfraddau Canfod Canser</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 21 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:43, 21 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Oes, mae llawer o fathau o ganser, wrth gwrs, yn dod i’r amlwg mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae pobl yn byw gyda’r symptomau, heb wybod beth yw'r symptomau. Gyda phlant, rwy’n amau—er nad oes gen i gymwysterau meddygol—y dybiaeth bob amser fydd mai rhywbeth arall yw’r broblem. Mae'n anodd i feddygon teulu wneud diagnosis o ganser yn gynnar. Er hynny, yn rhan o ailwampio’r cynllun cyflawni ar ganser, byddwn yn edrych ar yr hyn y gellir ei wneud er mwyn cynorthwyo meddygon teulu a gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol eraill i wella eu gallu i ganfod canser, pan fo hynny'n bosibl, cyn gynted â phosibl.