Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 21 Mehefin 2016.
Brif Weinidog, fel rhywun sydd wedi goroesi canser, gallaf ddweud wrthych o brofiad uniongyrchol bod diagnosis cynnar yn allweddol i oroesi. Mae meddygon teulu yn y rheng flaen yn y frwydr yn erbyn canser, ac maen nhw’n hollbwysig ar gyfer diagnosis cynnar. Brif Weinidog, canfu Cancer Research UK fod amrywiaeth enfawr o ran mynediad uniongyrchol meddygon teulu at brofion diagnostig yng Nghymru. Beth fydd eich Llywodraeth yn ei wneud dros y pum mlynedd nesaf i sicrhau bod gan bob meddyg teulu fynediad at brofion diagnostig hollbwysig? Diolch.