<p>Teithwyr Rheilffyrdd yn Islwyn</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 21 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 2:08, 21 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Iawn. Diolch i chi am yr ateb yna. Mae'r cynllun i ailgyflwyno gwasanaethau teithwyr yn ôl i reilffordd Glynebwy rhwng Glynebwy a Chaerdydd, gan gynnwys gorsafoedd yn Rhisga a Phontymister, Crosskeys a Threcelyn, wedi bod yn llwyddiant ysgubol gyda'r cyhoedd. Ariannwyd rhan fawr gan gyllid strwythurol yr UE; h.y. ni fyddai wedi digwydd pe byddai wedi cael ei adael i doriadau’r Torïaid sydd wedi digwydd yng Nghymru. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen ac yn hwyluso'r broses y gall y cymunedau yr wyf yn eu cynrychioli, sy’n cael eu gwasanaethu gan reilffordd Glynebwy, ei defnyddio i gael mynediad at ddinas fawr Casnewydd cyn gynted â phosibl, er mwyn sicrhau cysylltedd hanfodol ar gyfer swyddi, marchnadoedd ac adfywio cymunedol? A wnaiff ef hefyd gynnig sylwadau ar bwysigrwydd arian yr UE mewn prosiectau seilwaith hanfodol o'r fath ar gyfer y dyfodol?