<p>Teithwyr Rheilffyrdd yn Islwyn</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 21 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:09, 21 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'n iawn i ddweud na fyddai rheilffordd Glynebwy wedi cael ei hailagor heb gyllid Ewropeaidd. Ni all y metro fynd yn ei flaen heb arian Ewropeaidd. Ceir rhai sy'n dweud y bydd yr arian yn cael ei gyfateb geiniog am geiniog gan Whitehall. Rwy’n credu mai byw yng ngwlad y tylwyth teg yw hynny, a bod yn gwbl onest â chi.

Rwyf wedi treulio blynyddoedd lawer yn y Siambr hon yn ymladd Whitehall am gyllid, gan sicrhau bod gennym ni sail cyllid gwaelodol briodol, gan sicrhau bod fformiwla Barnett yn cael ei adolygu, ac nid yw'r canlyniadau wedi bod yn rhai hapus i Gymru. Nid wyf yn credu am un eiliad bach y bydd yr arian yr ydym ni’n ei gael gan Ewrop ar hyn o bryd yn cael ei drosglwyddo i ni, yn uniongyrchol, heb i Whitehall gymryd cyfran. Fe’i gwelsom gyda’r budd-dal treth gyngor: fe’i datganolwyd i ni, ond dim ond 90 y cant o’r gyllideb a roddwyd i ni. Ceir hanes yma. Rydym ni’n gwybod y bydd yr arian hwn yn dod i Gymru. Rydym ni’n buddsoddi £40 miliwn i wella amlder gwasanaethau a chyflymder rheilffyrdd, a bydd y buddsoddiad hwnnw yn galluogi gwasanaethau i Gasnewydd, a fydd yn cael eu hystyried wrth i ni gaffael y fasnachfraint Cymru a'r gororau nesaf a cham nesaf metro de Cymru, os bydd yr arian Ewropeaidd ar gael.