2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 21 Mehefin 2016.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran sicrhau gwell cysylltiad i deithwyr rheilffyrdd yn Islwyn? OAQ(5)0066(FM)
Rydym ni’n ariannu gwelliannau i reilffordd Glynebwy, a ailagorwyd gennym, wrth gwrs, a fydd yn caniatáu i wasanaethau ychwanegol gael eu cyflwyno yn y dyfodol, gan wella gorsafoedd ac, wrth gwrs, gwella cysylltedd bws.
Iawn. Diolch i chi am yr ateb yna. Mae'r cynllun i ailgyflwyno gwasanaethau teithwyr yn ôl i reilffordd Glynebwy rhwng Glynebwy a Chaerdydd, gan gynnwys gorsafoedd yn Rhisga a Phontymister, Crosskeys a Threcelyn, wedi bod yn llwyddiant ysgubol gyda'r cyhoedd. Ariannwyd rhan fawr gan gyllid strwythurol yr UE; h.y. ni fyddai wedi digwydd pe byddai wedi cael ei adael i doriadau’r Torïaid sydd wedi digwydd yng Nghymru. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen ac yn hwyluso'r broses y gall y cymunedau yr wyf yn eu cynrychioli, sy’n cael eu gwasanaethu gan reilffordd Glynebwy, ei defnyddio i gael mynediad at ddinas fawr Casnewydd cyn gynted â phosibl, er mwyn sicrhau cysylltedd hanfodol ar gyfer swyddi, marchnadoedd ac adfywio cymunedol? A wnaiff ef hefyd gynnig sylwadau ar bwysigrwydd arian yr UE mewn prosiectau seilwaith hanfodol o'r fath ar gyfer y dyfodol?
Wel, mae'n iawn i ddweud na fyddai rheilffordd Glynebwy wedi cael ei hailagor heb gyllid Ewropeaidd. Ni all y metro fynd yn ei flaen heb arian Ewropeaidd. Ceir rhai sy'n dweud y bydd yr arian yn cael ei gyfateb geiniog am geiniog gan Whitehall. Rwy’n credu mai byw yng ngwlad y tylwyth teg yw hynny, a bod yn gwbl onest â chi.
Rwyf wedi treulio blynyddoedd lawer yn y Siambr hon yn ymladd Whitehall am gyllid, gan sicrhau bod gennym ni sail cyllid gwaelodol briodol, gan sicrhau bod fformiwla Barnett yn cael ei adolygu, ac nid yw'r canlyniadau wedi bod yn rhai hapus i Gymru. Nid wyf yn credu am un eiliad bach y bydd yr arian yr ydym ni’n ei gael gan Ewrop ar hyn o bryd yn cael ei drosglwyddo i ni, yn uniongyrchol, heb i Whitehall gymryd cyfran. Fe’i gwelsom gyda’r budd-dal treth gyngor: fe’i datganolwyd i ni, ond dim ond 90 y cant o’r gyllideb a roddwyd i ni. Ceir hanes yma. Rydym ni’n gwybod y bydd yr arian hwn yn dod i Gymru. Rydym ni’n buddsoddi £40 miliwn i wella amlder gwasanaethau a chyflymder rheilffyrdd, a bydd y buddsoddiad hwnnw yn galluogi gwasanaethau i Gasnewydd, a fydd yn cael eu hystyried wrth i ni gaffael y fasnachfraint Cymru a'r gororau nesaf a cham nesaf metro de Cymru, os bydd yr arian Ewropeaidd ar gael.
Un datblygiad hanfodol i drafnidiaeth ar gyfer pobl yn Islwyn ac ar draws y rhanbarth ehangach, wrth gwrs, fyddai creu system fetro lawn yn rhan o bolisi economaidd a chymdeithasol ehangach, ond pa sicrwydd all y Prif Weinidog ei roi i mi y bydd y nod o ledaenu cread swyddi ar draws ranbarth y de-ddwyrain, fel bod cymunedau yno’n troi yn ardaloedd twf ynddynt eu hunain yn hytrach na bod yn fawr mwy na chymunedau cymudo i’r brifddinas?
I mi, mae'n gweithio’r ddwy ffordd. Mae'n iawn i ddweud bod miloedd o bobl yn cymudo i Gaerdydd bob dydd. Mae hynny’n mynd i barhau, ond mae hefyd yn bwysig ein bod yn cysylltu cymunedau i ddod â buddsoddiad i fyny o'r M4 hefyd. Felly, mae'n gweithio'r ddwy ffordd, nid yn unig cysylltedd ffisegol, ond band eang hefyd, gan ein bod ni’n gwybod bod band eang, yn yr unfed ganrif ar hugain, yn cyfateb i reilffyrdd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac mae'n hynod o bwysig gwneud yn siŵr bod cymunedau wedi'u cysylltu â band eang fel nad yw'n gwneud gwahaniaeth, os oes gennych chi fusnes digidol, er enghraifft, ym mhle yr ydych chi wedi eich lleoli: nid oes rhaid i chi fod yng Nghaerdydd, gallwch fod mewn unrhyw gymuned ledled Cymru. Mae'r ddau beth, i mi, yn cyd-fynd. Ac ydy, mae'n golygu ei bod yn haws i bobl gael mynediad at rai swyddi yng Nghaerdydd, gwir, ond mae hefyd yn haws dod â buddsoddiad i fyny o'r ardaloedd traddodiadol o gwmpas yr M4.
Brif Weinidog, honnodd gŵr busnes yn ddiweddar bod problemau traffig yn cael effaith niweidiol ar fusnesau yng Nghasnewydd. Un o'r rhesymau a roddodd am y cynnydd hwn mewn traffig cynyddol oedd y ffaith fod y trên rheilffordd y cymoedd o Drecelyn, lle mae'n byw, yn osgoi Casnewydd. Weinidog, yn 2007 a 2008, gwnaed addewidion yn y Siambr hon gan y Gweinidog dros yr economi ar y pryd, cyn Cwpan Ryder, y byddai’r cysylltiad trên rhwng Casnewydd a rheilffordd y cymoedd a Chaerdydd yn cael ei wneud, ond ni ddigwyddodd hynny—felly, yn y bôn, addewidion parhaus gan eich Llywodraeth, ond mae cysylltedd y brif reilffordd o reilffordd y cymoedd i Gasnewydd yn cael ei osgoi trwy Pye Corner. Pa gamau all Llywodraeth Cymru eu cymryd nawr, cyn i brosiect metro de Cymru gael ei gwblhau, i wella cysylltedd rhwng Islwyn a Chasnewydd?
Rwy'n credu fy mod wedi ateb y cwestiwn yna gan yr Aelod—dywedais yn gynharach y bydd y buddsoddiad yr ydym ni’n ei wneud yn galluogi gwasanaethau i Gasnewydd. Ystyriwyd hynny gennym yn rhan o'r broses gaffael ar gyfer y fasnachfraint nesaf.
Mark Reckless. [Torri ar draws.] Cwestiwn 5, Nick Ramsay.