<p>Datganoli Trethi</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 21 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 2:13, 21 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, mae'n gambl enfawr datganoli treth incwm heb reolaeth dros bolisi macro-economaidd na heb ddiogelu incwm. Caiff treth incwm Cymru ei heffeithio gan benderfyniadau yn San Steffan. Rydym ni’n gwybod y bu gostyngiad o £440 miliwn rhwng 2007-08 a 2009-10, ac nid oedd dim o hynny’n gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno, os caiff trethi eu datganoli, bod angen cymysgedd o drethi cylchol a gwrth-gylchol arnom, ac, os caiff treth incwm ei datganoli, bod angen i ni gael ein diogelu rhag lleihad mewn derbyniadau treth o dreth incwm yng Nghymru a achosir gan benderfyniadau San Steffan?