<p>Datganoli Trethi</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 21 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:14, 21 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Mae’r Aelod yn iawn, ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr—byddwn yn gwneud yn siŵr—bod hyn yn rhan o'r penderfyniadau o ran y fframwaith cyllidol, y bydd, yn fy marn i, angen ei gytuno gyda Llywodraeth y DU. Yr hyn sy'n hanfodol, yn fy marn i, yw bod gennym ni gytundeb a fydd yn sail i’n trefniadau ariannu ar gyfer yr hirdymor, ac mae hynny'n golygu, wrth gwrs, cyflwyno’r mesurau diogelwch y mae’r Aelod wedi eu codi, yn gwbl gywir, yn enwedig pan ddaw i ddatganoli treth incwm yn rhannol, fel nad yw Cymru ar ei cholled. Rydym ni’n awyddus i gael system drethi deg, ond nid un sy'n tanseilio’r system ariannu a fu gennym ni hyd yn hyn, er ei bod yn ddiffygiol, trwy fformiwla Barnett. Felly, mae'n hynod bwysig, ac mae'n wir y bydd hyn yn rhan o'r trafodaethau a fydd yn parhau.