Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 21 Mehefin 2016.
A ydy’r Prif Weinidog yn gallu egluro’r dryswch sydd yna ar hyn o bryd ynglŷn â’r dreth teithwyr awyr? Ar 9 Mehefin yr oedd Jim O’Neill ar ran y Trysorlys yn Llundain wedi cadarnhau bod yr adolygiad ynglŷn â datganoli’r dreth i Gymru yn parhau, ac wedyn, ychydig o ddyddiau wedyn, roedd Guto Bebb o Swyddfa Cymru ar ei draed yn Nhŷ’r Cyffredin yn dweud bod y penderfyniad wedi cael ei wneud i beidio. P’un yw e? A ydy’r Prif Weinidog yn synnu bod y Ceidwadwyr Cymreig fel petaent yn fwy bodlon gwrando ar faes awyr ym Mryste, sydd wedi ei berchen gan gronfa bensiwn o Ontario, nag ydyn nhw ar Senedd pobl Cymru fan hyn?