<p>Aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 21 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:22, 21 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Ers canol y 1970au, mae'r UE wedi chwarae rhan bwysig o ran diogelu pobl sy'n gweithio. Mae pob gweithiwr yn cael ei ddiogelu gan ystod o hawliau sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch yn y gwaith, cyfle cyfartal i ddynion a menywod, amddiffyniad rhag gwahaniaethu ac, wrth gwrs, cysoni amodau gwaith ledled Ewrop, nid nad oes gan un wlad fantais dros un arall dim ond oherwydd bod ei harferion iechyd a diogelwch yn israddol.