Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 21 Mehefin 2016.
Brif Weinidog, ym 1975, fe wnaethom ni ymuno â'r UE. Ym 1977, cyflwynodd yr UE gyfarwyddeb i ddiogelu gweithwyr sy'n trosglwyddo o un ymgymeriad i un arall, a ddaeth, ym 1981, yn Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981, sydd wedi rhoi diogelwch i gannoedd o filoedd o weithwyr yng Nghymru dros y sawl degawd hynny. Yn wir, pan ddaeth i’r amlwg nad oedd Llywodraeth Dorïaidd yn gweithredu’r gyfarwyddeb yn briodol, llwyddodd Unsain, undeb y sector cyhoeddus, i fynd i Lys Cyfiawnder Ewrop a chael gorchymyn i roi'r diogelwch priodol hwnnw i’r cannoedd o filoedd o weithwyr hynny. Pan ddaw i ddiogelu hawliau gweithwyr, pwy fyddech chi'n ymddiried ynddynt fwyaf: yr Undeb Ewropeaidd, Michael Gove, Nigel Farage ynteu Boris Johnson? [Chwerthin.]