Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 21 Mehefin 2016.
Nid y tri olaf, os caf i ddweud hynny. Mae’r bobl hyn o draddodiad sy'n mynnu y dylai fod mwy o hyblygrwydd, fel y maen nhw’n ei weld, yn y farchnad lafur, sy'n golygu ei bod yn haws diswyddo pobl, gwneud trefniadau gweithio dros dro, contractau dim oriau. Felly, na, nid wyf yn rhannu unrhyw fath o ffydd y byddant yno i amddiffyn hawliau gweithwyr. Rydym ni’n gwybod, yn enwedig oddi wrth yr economegwyr sy'n cefnogi'r ymgyrch i adael, eu bod yn gweld dyfodol y DU fel un lle nad oes bron dim hawliau i bobl sy'n gweithio, lle nad yw materion fel iechyd a diogelwch yn cael eu hystyried â’r un gofal ag y maen nhw nawr, a lle mae rheoliadau amgylcheddol yn cael eu rhoi o’r neilltu yn bennaf. Felly, rydym ni’n mynd yn ôl i’r dyddiau yn y 1980au pan gafodd Prydain ei diraddio’n sylweddol yn amgylcheddol. Nid dyna’r dyfodol yr ydym ni ei eisiau. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod gennym ni amgylchedd—amgylchedd gwaith ac amgylchedd ffisegol—y mae pobl eisiau ei fwynhau a’i barchu.