6. 5. Datganiad: Cynnydd o ran Gweithredu Deddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

– Senedd Cymru am 3:40 pm ar 21 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:40, 21 Mehefin 2016

Rŷm ni’n symud ymlaen i’r eitem nesaf, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar gynnydd o ran gweithredu Deddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant, i wneud y datganiad.

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Mae'n fraint imi gael ymgymryd unwaith eto â’r agenda bwysig hon i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rwy’n falch mai fi oedd y Gweinidog â chyfrifoldeb am ddatblygiad cynnar y Bil, a bu fy nghydweithwyr Lesley Griffiths a Leighton Andrews yn llwyddiannus wrth barhau â’r cyfrifoldeb hwnnw.

Ym mis Mehefin 2014, cafodd Llywodraeth Cymru achrediad Rhuban Gwyn ac mae sawl cennad Rhuban Gwyn yn y Cabinet, ac rwy’n falch o fod wedi bod yn un ers blynyddoedd lawer. Diben y Ddeddf yw gwella camau atal, diogelu a chefnogi i bobl sydd wedi'u heffeithio gan drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac rydym yn gwneud cynnydd da o ran ei gweithredu. I wella ymyrraeth gynnar, mae'n hanfodol bod gweithlu’r sector cyhoeddus yn gallu nodi cam-drin a darparu cymorth a chefnogaeth i ddioddefwyr.

Ym mis Mawrth, cyhoeddwyd y fframwaith hyfforddi cenedlaethol. Mae'n nodi gofynion hyfforddi ar gyfer pob swyddogaeth o fewn y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys hyfforddiant codi ymwybyddiaeth i’r holl staff, helpu gweithwyr proffesiynol i ymdrin â datgeliadau am gam-drin, a sicrhau bod hyfforddiant cyson ar gael i weithwyr proffesiynol arbenigol. Rhan allweddol o'r fframwaith yw'r pecyn e-ddysgu a gyhoeddwyd fis Medi diwethaf. Bydd yr e-ddysgu yn codi ymwybyddiaeth tua 0.25 miliwn o weithwyr gwasanaeth cyhoeddus Cymru dros y ddwy flynedd nesaf.

Rydym hefyd wedi cyflwyno 'gofyn a gweithredu'. Mae hyn yn gofyn i weithwyr proffesiynol fel ymwelwyr iechyd a swyddogion tai adnabod symptomau cam-drin a gofyn i gleientiaid a ydynt yn cael eu cam-drin. Mae'n ofynnol iddynt gynnig atgyfeiriadau, ymyraethau a chymorth arbenigol gan ddibynnu ar yr hyn sydd ei angen. Mae hwn yn brosiect pum mlynedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cael ei gael ei dreialu mewn dwy ran o Gymru. Rydym wedi cael adborth cadarnhaol iawn ar y prosiect hwn.

I'n helpu mewn gwirionedd i atal trais yn erbyn menywod yn y dyfodol, mae'n rhaid inni ganolbwyntio ar blant, i wneud yn siŵr eu bod yn deall beth yw perthynas iach a sut i adnabod symptomau perthynas nad yw’n iach. Hyd yn hyn rydym wedi cyhoeddi canllaw ymagwedd addysg gyfan at arfer da, a gynhyrchwyd gan Gymorth i Fenywod Cymru, a chanllaw codi ymwybyddiaeth i lywodraethwyr ysgol a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2016. Rydym hefyd wedi cynnal cynhadledd addysg genedlaethol ar y cyd.

Bydd canllawiau statudol ar addysg yn gwneud i awdurdodau lleol ddynodi aelod o staff ar gyfer hyrwyddo materion trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol mewn ysgolion a lleoliadau eraill. Ein nod yw cyhoeddi'r rhain erbyn diwedd y flwyddyn. Rydym hefyd wedi comisiynu Cymorth i Fenywod Cymru i ddatblygu pecyn o ddeunyddiau arfer gorau i ymwneud â'r materion hyn, i'w defnyddio mewn lleoliadau addysg ledled Cymru. Bydd y rhain hefyd yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.

Mae angen i wasanaethau cyhoeddus weithio gyda'i gilydd i amddiffyn pobl sy'n profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol rhag dioddef unrhyw niwed pellach, ac amddiffyn unrhyw aelod o'r teulu a phlant.

Yn 2015-16 cafodd ein cyllideb ar gyfer dileu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ei chynyddu i £5.4 miliwn ac nid yw wedi ei newid ar gyfer 2016-17. Rydym hefyd wedi cymryd camau sylweddol i leihau nifer yr achosion o anffurfio organau cenhedlu benywod, priodasau dan orfod a thrais yn seiliedig ar anrhydedd, ac i amddiffyn y dioddefwyr.

Ar gyfer y dyfodol, rydym yn gwybod mai rhan fawr o ymdrin â thrais yn erbyn menywod fydd ymdrin â drwgweithredwyr. Rydym yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a'r cynghorydd cenedlaethol ar ganllawiau ar ddrwgweithredwyr. Rydym hefyd yn gweithio gyda dioddefwyr a goroeswyr i'n helpu i lunio ein hymagwedd barhaus.

Rydym yn parhau i gefnogi'r wefan Byw Heb Ofn, sy'n darparu adnodd cynhwysfawr ar gyfer dioddefwyr, goroeswyr, teuluoedd a ffrindiau a gweithwyr proffesiynol. Mae'r wefan yn cefnogi gwaith y llinell gymorth o ran darparu cyngor a chyfeirio.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno nifer o ymgyrchoedd uchel eu proffil i godi ymwybyddiaeth a newid agweddau yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae hyn yn cynnwys ymgyrch arobryn Croesi’r Llinell, sy'n ymdrin â cham-drin emosiynol. Cafodd yr ymgyrch hon wobrau aur ac arian yng ngwobrau’r Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus fis Hydref diwethaf. Rwy’n bwriadu adeiladu ar y llwyddiant yn 2016-17.

Rydym hefyd wedi gwneud cynnydd sylweddol, ond mae llawer mwy i'w wneud. Byddwn yn ymgynghori ar y strategaeth genedlaethol, gan gynnwys mesurau perfformiad a chynnydd, a fydd yn sail i fframwaith ar gyfer darparu gwasanaethau ar lefel ranbarthol. Ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda'r cynghorydd cenedlaethol, Rhian Bowen-Davies, ar ôl cwrdd â hi yr wythnos diwethaf, a gyda sefydliadau’r sector cyhoeddus a mudiadau'r trydydd sector, a gyda dioddefwyr a goroeswyr i barhau â'r gwaith rhagorol sydd wedi’i wneud hyd yn hyn i gyflawni ein gweithgareddau i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru

Diolch yn fawr iawn, a diolch am y diweddariad yna. Wrth gwrs, rydych chi’n cydnabod fan hyn bod y grant canolog wedi cael ei gynyddu, ond, wrth gwrs, mae llawer o gyllid ar gyfer y maes yma, ar gyfer cymorth i ferched, ar gyfer y llochesu, yn dod drwy’r awdurdodau lleol, ac mae’r awdurdodau lleol wedi gwynebu toriadau ariannol flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae rhai o’r gwasanaethau yma yn dioddef o doriadau sy’n amrywio o rhwng 3 y cant ac 20 y cant, ac mae yna ambell i enghraifft o doriadau o hyd at 70 y cant yn y gwasanaeth cymorth i ferched mewn rhai rhannau o Gymru, yn anffodus. Mae hyn yn arwain at sefyllfa enbydus ar adegau, ac, yn ystod 2015, mi oedd yn rhaid i Gymorth i Ferched wrthod gwasanaeth i 284 o ferched oherwydd nad oedd yna lle yn y llochesu a dim arian ar gyfer cynnal y gwasanaeth. Sut, felly, ydych chi’n bwriadu gweithredu’r fframwaith yn y maes yma yn wyneb y ffasiwn ddiffyg adnoddau a chyllid, a beth ydy strategaeth ariannol y Llywodraeth?

A gaf i jest droi at ddau fater arall hefyd? Mae Plaid Cymru wedi bod yn pwysleisio addysg berthynas iach a’r angen i fod yn cynnal hynny ac yn lledaenu hynny fel agwedd gyfan tuag at y broblem ddwys yma. Sut ydych chi’n mynd i fod, rŵan, yn monitro gweithredu’r canllawiau sydd wedi cael eu cyhoeddi i wneud yn siŵr bod y maen yn mynd i’r wal yn y maes yna? Rwy’n sylwi nad ydych chi ddim yn sôn am un agwedd bwysig iawn yn y maes yma, sef y mater o wahardd taro plant, a phenderfyniad y Llywodraeth yn y Cynulliad diwethaf oedd peidio â chynnwys dileu’r amddiffyniad cosb resymol, oedd yn drueni mawr oherwydd fe fyddai wedi rhoi gwarchodaeth gyfartal i blant o fewn y gyfraith. Mae yna arwydd, bellach, bod eich Llywodraeth chi yn barod i ailystyried y mater yma, diolch i bwysau gan fy mhlaid i, felly buaswn i’n hoffi gwybod beth ydy’r camau a beth ydy’r amserlen ar gyfer gwneud hyn, achos mae o’n fater sydd yn hollbwysig ar gyfer ein plant ni yn y dyfodol.

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 3:48, 21 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad. Dylai hi fod yn ymwybodol mai hwn yw'r ail dro imi fod yn y portffolio hwn ac rwyf wedi gweithio gyda llawer o grwpiau i gynyddu'r cyfleoedd sydd gennym, gan weithio gyda'r Llywodraeth i sicrhau ein bod yn ymdrin â'r materion hyn. Croesawaf y cyfle i weithio gyda'r Aelod mewn ffordd fwy adeiladol yn y dyfodol hefyd. Rwy'n credu y byddai o gymorth fodd bynnag i’r Aelod edrych yn fwy manwl ar rai o'r materion y mae’n eu codi gyda mi heddiw. Wrth gwrs, fe wnes i ddweud wrth yr Aelod ein bod ni, yn 2015-16, wedi cynyddu'r gyllideb ar gyfer ymdrin â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i £5.4 miliwn. Nid yw hynny wedi’i newid ar gyfer 2016-17. Mae’r Aelod yn iawn i godi'r mater o ymyrraeth gan awdurdodau lleol, ond mae cynifer o chwaraewyr eraill hefyd, a'r mater ynglŷn â’r grant Cefnogi Pobl ynglŷn â llochesau yn arbennig—rydym yn gweithio gyda Cefnogi Pobl, sy'n dyroddi swm sylweddol o arian i fudiadau trydydd sector ac yn wir i gymdeithasau tai hefyd, sydd hefyd yn bartneriaid yn hyn. Rwyf eisoes wedi siarad â thri o'r pedwar comisiynydd heddlu a throseddu ledled Cymru, ac rwy’n gwybod eu bod hwythau’n awyddus iawn i ymuno â ni i ymdrin â rhai o'r materion y mae'r Aelod yn eu codi.

Hefyd, efallai fod yr Aelod wedi defnyddio iaith anffodus braidd o ran yr amddiffyniad cosb resymol. Bydd y Llywodraeth hon yn deddfu ar amddiffyniad cosb resymol yn ystod tymor y Llywodraeth hon, a fi fydd yn mynd â’r ddeddfwriaeth honno drwodd. Rwy'n edrych ymlaen at gefnogaeth yr Aelod wrth inni symud ymlaen. Mae yna lawer o eitemau cymhleth wrth ymdrin â'r materion hyn, a rhai o'r blaenoriaethau y mae fy nhîm i eisoes wedi dechrau gweithio arnynt, ac y byddaf yn ymwneud â hwy gyda chydweithwyr ar draws y Llywodraeth, yw pethau fel profiadau niweidiol plentyndod, neu ACEs yn gryno, sy’n cael effaith enfawr ar y ffordd y mae pobl yn tyfu'n oedolion ac effeithiau hynny. Rydym hefyd yn gweld rhai rhaglenni gwych eisoes ar waith ar ffurf arbrofol ledled Cymru—mae’r rhaglen IRIS, a ddechreuodd ym Mryste, bellach yn cael ei chyflwyno ar draws llawer o feddygfeydd teulu Caerdydd, lle’r ydym yn gweld atgyfeiriadau tro cyntaf yn cynyddu'n sylweddol, o ddydd i ddydd, sy'n ymddangos yn drasig, ond mewn gwirionedd mae'n newyddion gwych ein bod yn gweld bod gan bobl y gallu a'r hyder i gael cymorth yn y sefyllfa drasig y maent yn canfod eu hunain ynddi. Mae gennym wasanaethau dan arweiniad iechyd IDVA yn cael eu cyflwyno ledled Cymru, a hefyd y mater yn ymwneud â rhaglen drwgweithredwyr sy'n cael ei chynnal yn Essex a Sussex, ac mae comisiynydd heddlu a throseddu de Cymru yn edrych ar y rhaglen ‘Drive’, a ddylai fod, unwaith eto, yn rhywbeth y dylem feddwl amdani—sut yr ydym yn gwneud yn siŵr bod y rhaglenni hyn yn gyson ledled Cymru?

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 3:50, 21 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Unwaith eto, rwy’n falch o’ch croesawu yn ôl i swyddogaeth, Weinidog—neu Ysgrifennydd—y gwn eich bod yn teimlo’n angerddol ynglŷn â hi. Mae angerdd yn chwarae rhan, wrth gwrs, ar y ddwy ochr i’r ddadl hon. Hoffwn dynnu eich sylw at angerdd i wneud rhywbeth cadarnhaol am hyn, a hoffwn, yma, ganmol gwaith ysgol Coedcae yn Llanelli, o ble y daeth y disgyblion yma i gyflwyno eu cynllun gweithredu a’u dealltwriaeth yn eu hymgyrch Rhuban Gwyn ddwy flynedd yn ôl. Roeddent wedi creu drama—hynny yw, roedd y disgyblion wedi creu drama lle’r oeddent yn chwarae’r prif rannau yn y ddrama honno ac yn trafod yr holl oblygiadau sy’n gysylltiedig â phob agwedd ar gam-drin domestig a thrais yn y cartref. Daeth y Gweinidog addysg ar y pryd, Huw Lewis, draw i'r ysgol, ac rwy'n eich gwahodd chi, Weinidog, gan obeithio y gwnewch achub ar y cyfle i ddod draw hefyd, oherwydd mae’n enghraifft wirioneddol o waith grŵp a arweinir gan gyfoedion o fewn ysgol ac mae'n bendant yn fodel o arfer gorau.

Ar y llaw arall, cynhaliais arolwg o fyfyrwyr ddwy flynedd yn ôl, gan ofyn nifer fechan iawn o gwestiynau sylfaenol am, 'Ydych chi erioed wedi gweld neu a ydych chi erioed wedi bod yn dyst, a sut ydych chi'n teimlo am wahanol lefelau o drais?' Cefais fy syfrdanu a fy siomi pan ddywedodd 50 y cant o'r rhai a ymatebodd eu bod, ac roedd 50 y cant—ac nid oedd o bwys mewn gwirionedd a oeddent yn wrywod neu'n fenywod—yn meddwl ei bod yn eithaf derbyniol i wryw daro ei gariad neu ei bartner drwy roi slap syml iddi. Dyna oedd yr atebion a gefais. Felly, pan ein bod yn dweud bod angen i ni edrych ar hyn a deddfu, mae hynny’n gywir, ond yr hyn sy’n gwbl angenrheidiol—a dyma lle’r wyf yn llwyr gefnogi’r gwaith gyda phobl ifanc a phlant—yw newid agweddau. Oherwydd mae yma angen uniongyrchol am newid agwedd a ddaeth allan o fy arolwg, ac roedd yn gwbl syfrdanol imi.

Wrth gwrs, yr hyn yr ydym yn sôn amdano mewn gwirionedd wrth sôn am newid calonnau a meddyliau—rydym yn sôn am yr agenda parch, bod pobl wir yn parchu ei gilydd, beth bynnag yw eu hoed, beth bynnag yw eu rhywedd. Ac mae hynny'n dod â mi'n daclus, rwy’n meddwl, at faes nad yw yn ôl pob tebyg yn cael llawer iawn o sylw, sef maes perthnasoedd o'r un rhyw. Mae'n beth gwych erbyn hyn y gall pobl gael perthynas o'r un rhyw yn agored heb ddim ofn dial gan y gymdeithas ehangach, ond nid wyf mor argyhoeddedig bod y cyplau hynny’n teimlo’r un rhyddid i ddod ymlaen a mynegi, ac a oes pobl wedi’u hyfforddi mewn gwirionedd i helpu’r cyplau hynny, pan eu bod yn profi cam-drin domestig.

Yn olaf, hoffwn wybod, Weinidog, beth yr ydych chi'n mynd i'w wneud am fonitro cynnydd. Mae'n wych ein bod yn arwain y byd yn y maes hwn, ond mae angen inni fonitro’r cynnydd i sicrhau bod yr hyn yr ydym yn ceisio arwain arno yn cael ei ddarparu mewn gwirionedd. Mae'n wych ein bod yn gosod hyrwyddwyr yma ac acw, ond beth yn union y maen nhw'n ei wneud? A fyddwn ni'n gwybod beth y maent yn ei wneud, ac i bwy y maent yn atebol, ac am beth y maent yn atebol amdano mewn gwirionedd?

Hefyd, clywais y stori nawr am ostyngiadau 70 y cant gan un awdurdod yn y gyllideb y maent yn ei rhoi i Gymorth i Fenywod. Rwy'n meddwl bod hynny'n warthus. Penderfyniad gwleidyddol yw hwnnw, ac mae angen iddynt ystyried hynny o fewn eu hawdurdod lleol eu hunain. Ond mae'r Bil tai mewn gwirionedd yn caniatáu rhyddhau rhai o'r lleoedd hynny. Unwaith eto, o ran yr un peth am fonitro cynnydd, a ydych chi wedi edrych ar ba un a oes unrhyw un o'r cymdeithasau tai neu’r awdurdodau lleol yn bwrw ymlaen â'r ddarpariaeth sydd ganddynt bellach yn y Bil tai sy’n dweud wrthynt mewn gwirionedd y cânt, pan fo’n ddiogel, symud y drwgweithredwr, nid y dioddefwr?

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 3:56, 21 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad. Unwaith eto, Joyce Watson, diolch i chi am eich cyfraniad i'r rhaglen hon hefyd—mae eich gwaith chi wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol. Felly, drwy weithio gyda'n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth mawr yn hyn o beth, fel y mae llawer o bobl eraill yn y maes yn ei wneud hefyd.

Mae'r Aelod yn codi rhai pwyntiau diddorol iawn. Rwy’n ymwybodol o'r ysgol yn Llanelli a’r ddrama a gyflwynwyd ganddynt, oherwydd, er eich bod wedi gwahodd Huw Lewis i fod yn bresennol, rwy’n teimlo fy mod yn cofio cael rhywfaint o ymyrraeth hefyd yn y broses honno. Hoffwn longyfarch y bobl ifanc, sy’n adeiladu ar berthnasau iach, oherwydd dyna beth yr wyf i'n ei gredu. Mae'r portffolio cymunedau wedi ei wella gan ei fod nawr yn cynnwys cyfrifoldeb penodol dros blant a phobl ifanc, oherwydd rwyf yn credu, os gallwn wneud rhai ymyraethau cynnar ar berthnasoedd iach ar oedran ifanc, mae'n paratoi pobl am y tymor hir mewn bywyd. Rwy'n hynod o falch o allu gweithio gyda fy nghyd-Ysgrifenyddion Cabinet o ran sut y gallwn weithio ar y cyd ar yr un agenda hon o les yn ein cymunedau, gan ddechrau â phobl ifanc.

Mae’r mater y mae’r Aelod yn ei godi ynglŷn â thai, yn benodol, yn faes arall y mae gen i ddiddordeb mawr ynddo. Mae’r ffordd y gall y sector tai gefnogi'r union fater hwn wedi cael argraff dda iawn arnaf erioed. Rwy’n cofio, yn ôl yn y portffolio flynyddoedd lawer yn ôl pan ofynnais i i'r cymdeithasau tai gyflwyno polisïau seiliedig ar waith a pholisïau seiliedig ar gleientiaid ar gyfer trais domestig, bod bron bob un ohonynt wedi gwneud hynny. Roedd un ychydig yn heriol, ond, wedi inni siarad am arian, gwnaethant benderfynu mai syniad doeth yn ôl pob tebyg fyddai symud i mewn i'r gofod hwnnw am y rhesymau cywir. Nawr, mae gan yr holl gymdeithasau tai ledled Cymru bolisïau sy'n seiliedig ar waith yn ymwneud â thrais yn y cartref, ac ar gyfer eu cleientiaid hefyd. Felly, maen nhw'n gallu dylanwadu a gwneud rhagor o waith. Mae'r rhaglen 'gofyn a gweithredu' y maent yn cymryd rhan ynddi yn rhywbeth sydd, unwaith eto, yn parhau i fod yn unigryw i Gymru mewn lleoliad byd-eang. Felly, rydym yn gwneud peth gwaith clyfar iawn.

O ran perthynas o'r un rhyw: rwy’n rhannu eich pryder, ac yn benodol, gwelsom y digwyddiadau trasig a ddigwyddodd yn Orlando yr wythnos diwethaf—yn dweud nad ydym o hyd, nad yw pobl o hyd, yn derbyn yr hyn sy'n hollol naturiol i’r hyn a welwn mewn bywyd bob dydd, a sut yr ydym yn sicrhau bod gwasanaethau’n cyd-fynd â'i gilydd i gefnogi pobl sy'n dewis byw mewn perthynas cwpl o'r un rhyw? Mewn gwirionedd, nid dim ond mater o berthnasoedd priodasol yw trais yn y cartref: mae'n dadau a meibion, mamau a merched, a chymysgedd gyfan o'r modd y mae’r digwyddiadau hyn yn digwydd. Mae'n rhaid inni fod yn glyfar iawn yn y ffordd yr ydym yn edrych a sut yr ydym yn cefnogi pobl yn eu rhaglenni datgelu.

Rwy'n awyddus iawn i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud cynnydd ar hyn. Rwy'n credu bod rhai pobl yn y sector—rhai o fy swyddogion i, hyd yn oed—a oedd yn meddwl, 'O na, mae e'n ôl'. Wel, rwyf yn ôl a gadewch inni obeithio y gallwn weithio gyda'n gilydd i wneud yn siŵr y gallwn wneud newidiadau gwirioneddol—gwneud rhywbeth yn angerddol er lles a diogelwch pobl ar draws ein cymunedau. Byddwn yn gwneud hynny drwy weithio gyda'r strategaeth genedlaethol, yr ymgynghorydd cenedlaethol a dangosyddion cenedlaethol, a gweithio gyda'r egwyddorion y gwnaethom eu rhoi gosod yn y Llywodraeth y tymor diwethaf am Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, gan wneud yn siŵr y gallwn gynllunio ar gyfer y dyfodol, gan weithio gyda'n pobl ifanc, ac annog ac addysgu pobl am berthnasoedd iach. Mae hynny'n rhywbeth y gwn, o weithio gyda chi a llawer yn y Siambr hon, y gallwn ei gyflawni.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:59, 21 Mehefin 2016

Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Mark Isherwood.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy’n meddwl, pan oedd y portffolio hwn gennych ddiwethaf, mai gennyf i oedd portffolio’r wrthblaid, ac rwy'n dal i fod y llefarydd ar ran fy mhlaid ar y mater hwn. A gaf i ddechrau drwy roi clod i bobl nad ydynt yma: Jocelyn Davies, a arweiniodd ar hyn dros Blaid Cymru yn y Cynulliad diwethaf, a Peter Black, dros y Democratiaid Rhyddfrydol, a weithiodd gyda mi i gryfhau'r Bil gyda'r Gweinidog, yn enwedig ar y diwedd? Bydd y rhai ohonoch a oedd yma yn cofio yn yr wythnosau olaf hynny, yn enwedig yr wythnos olaf, faint o straen oedd ar bethau, oherwydd ein bod ni fel aelodau'r pwyllgor a fu'n craffu arno yng Nghyfnod 1 wedi dweud y dylai'r Gweinidog ddiwygio'r Bil i ddarparu ar gyfer rhaglenni addysg priodol i oedrannau yn orfodol drwy’r ysgol gyfan ar berthnasoedd iach, ac roedd hi’n Gyfnod 3 a ninnau’n dal i fod heb lwyddo i wneud hynny. Cyflwynodd y Gweinidog rai consesiynau a alluogodd y Bil i fynd drwodd gyda chefnogaeth unfrydol yng Nghyfnod 4.

Heddiw, gwnaethoch gyfeirio at y dull addysg gyfan, y canllaw arfer da, y gynhadledd addysg genedlaethol, a chanllawiau statudol ar addysg i wneud i awdurdodau lleol ddynodi aelod o staff at ddiben hyrwyddo trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a materion trais rhywiol mewn ysgolion a lleoliadau eraill. Yng Nghyfnod 3 a 4 roedd y Gweinidog wedi dweud y byddai’r canllawiau statudol wedyn yn darparu neu'n cynnwys darpariaethau ar gyfer dulliau megis sut y gall ysgolion fwrw ymlaen ag ymagwedd ysgol gyfan drwy benodi hyrwyddwyr staff, disgyblion a llywodraethwyr, ac nad oes eu hangen felly. A allwch chi gadarnhau felly y bydd hyn yn gwneud i awdurdodau lleol gyflwyno’r hyrwyddwr staff hwnnw? Ond hefyd, a allech chi efallai ymateb i’r hepgoriad yma, neu ei ddatblygu, o ran plant a llywodraethwyr, y cyfeiriodd eich rhagflaenydd atynt hefyd yn y cyd-destun hwn?

Cyfeiriasoch at ddatblygu pecyn o arfer gorau i’w ddefnyddio mewn lleoliadau addysg ledled Cymru. Dywedodd y Gweinidog yng Nghyfnod 4, a dyfynnaf:

gofynnodd Mark Isherwood yn benodol am sut yr ydym yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y cwricwlwm ac am weithredu adolygiad Donaldson, ac rydych chi'n cynnig datblygu addysg perthynas iach o fewn y cwricwlwm a ddilynir gan bob ysgol. Dywedodd eich rhagflaenydd mae hynny'n sicr yn rhywbeth yr hoffwn fod yn adrodd arno.

Felly, tybed a allech chi ychwanegu sylwadau yng nghyd-destun argymhellion adolygiad Donaldson.

Rydych yn dweud, ar gyfer y dyfodol, ein bod yn gwybod mai rhan fawr o ymdrin â thrais yn erbyn menywod fydd ymdrin â drwgweithredwyr, a’n bod yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a'r cynghorydd cenedlaethol ar ganllawiau ar ddrwgweithredwyr. Wel, unwaith eto yng Nghyfnod 4, dywedodd y Gweinidog blaenorol:

gallaf hefyd addo i Mark Isherwood, o ystyried ei bwysau parhaus drwy gydol y broses hon ar bwysigrwydd rhaglenni drwgweithredwyr, y byddwn, wrth gwrs, yn adrodd ar y rheini hefyd, lle maent yn gweithredu, gan gadw mewn cof bod yr ymchwil yn y maes hwn yn dal i gael ei ddatblygu a bod angen inni sicrhau ein bod yn rhoi rhaglenni ar waith sy'n gweithio mewn gwirionedd.'

Yn fy nghyfraniadau rwyf wedi cyfeirio, er enghraifft, at waith Relate Cymru a’u rhaglen drwgweithredwyr wirfoddol, a ganfu bod 90 y cant o'r partneriaid y maent yn eu holi, weithiau ar ôl diwedd y rhaglen, yn dweud bod trais a brawychu gan eu partner wedi stopio’n gyfan gwbl. Rwyf wedi cyfeirio hefyd at wybodaeth ac arbenigedd sefydliad sy’n agos at eich calon chi, sef yr uned diogelwch cam-drin domestig ar Lannau Dyfrdwy. Tybed a allwch chi roi sylwadau ynglŷn â pha un a allech, neu sut y gallech, ymestyn eich gwaith â hyn i gynnwys sefydliadau felly, er mwyn gallu manteisio ar yr arbenigedd rheng flaen sydd eisoes ganddynt hwy a'u sefydliadau partner.

Roedd yr adroddiad pwyllgor Cyfnod 1 yn y Cynulliad diwethaf yn argymell y dylai'r ddeddfwriaeth sicrhau bod gwasanaethau wedi’u teilwra i briod anghenion penodol dynion a menywod. Dyfynnais ar y pryd yr uned diogelwch cam-drin domestig yn Sir y Fflint, a oedd wedi rhoi llyfryn imi, llyfryn fforwm iechyd dynion, a oedd yn dweud ei bod yn bwysig cydnabod bod dynion yn dioddef trais yn y cartref fel dioddefwyr ac fel drwgweithredwyr, a chyfeiriais at adroddiad 'Hidden in Plain Sight' Barnardos ar gamfanteisio'n rhywiol ar fechgyn a dynion ifanc. Dywedasant fod hyn yn dechrau ymdrin â'r bwlch a grëwyd gan y pwyslais ar ddioddefwyr benywaidd heb roi llawer o sylw i wrywod. Wel, bu galw am ddulliau rhyw-benodol ar gyfer menywod, wrth gwrs, ond hefyd ar gyfer dynion.

Yng Nghyfnod 4 dywedais y byddwn yn ceisio gweld sut yr oedd y Gweinidog yn datblygu ei addewidion yn hyn o beth. A allech chi roi sylwadau am yr addewidion a wnaeth eich rhagflaenydd yn hyn o beth, ac am sut y gallech edrych ar hyn yn y dyfodol?

Fy mhwynt olaf: ar y cam hwnnw nodais hefyd bryder nad oedd y newid enw o gynghorydd 'gweinidogol' i 'genedlaethol' yn ôl pob golwg yn ddim mwy na hynny—newid enw. Mae’r Gweinidog wedi cydnabod cyn hyn yr hyn y cyfeiriodd atynt fel anghysondebau o fewn y Bil a grëwyd gan y newid enw, gan ddatgan ei fwriad i egluro’r rhain. Unwaith eto, a allech chi gadarnhau pa un a ydych chi wedi ymdrin â’r anghysondebau hynny, neu sut y byddwch yn gwneud hynny? Diolch.

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 4:05, 21 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i Mark Isherwood am ei gwestiwn. Ni allaf roi sylwadau am benderfyniadau’r cyn- Weinidog a'i dystiolaeth yng nghyfnod y pwyllgor. Yr hyn y gallaf ei wneud yn sicr yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau, sef yr hyn yr wyf yn gobeithio ei wneud heddiw, o ran sut yr ydym ni'n bwrw ymlaen â'r Bil a'r cysyniadau y tu ôl i hynny a'i weithredu, a chredaf fod hynny’n rhan bwysig iawn o hynny. Mae’r Aelod yn iawn i sôn am ganllawiau statudol. Efallai y byddai’r Gweinidog blaenorol wedi dweud ei fod yn gallu ysgogi newid; fy nhybiaeth fydd y bydd yn ysgogi newid, a byddaf yn gwneud yn siŵr bod hynny’n glir iawn mewn canllawiau statudol a gyhoeddir ynglŷn â’r hyfforddiant ar gyfer rhai aelodau staff a llywodraethwyr byrddau.

Rwyf eisoes wedi dechrau trafodaethau cynnar gyda Kirsty Williams ynghylch adolygiad Donaldson a’r argymhellion ynglŷn â hwnnw, oherwydd fy marn i yw nad yw perthynas iach ac addysgu perthynas iach yn ddewisol ar gyfer ysgolion. Dylem fod yn gwneud hyn o oed cynnar iawn. Rwyf wedi cyfarfod, ac rwy’n siŵr bod yr Aelod hefyd wedi cyfarfod, â llawer o ysgolion mewn ardaloedd cefnog—gadewch inni ddweud—nad ydynt yn credu bod problem â thrais yn y cartref yn eu cymuned o gwbl. Wel, mae'n lol llwyr. Mae trais yn y cartref yn gyffredin yn ein holl gymunedau. Nid yw'n seiliedig ar ddosbarth a gall ddigwydd i unrhyw un. Dyna pam, rwy’n meddwl, nad yw perthynas iach ar draws y sector cyfan, ein holl ysgolion, yn ddewisol. Rwy'n ddiolchgar iawn am y gwaith, eisoes, y mae Kirsty Williams yn ein helpu i’w ddatblygu o ran hyfforddiant. Byddaf yn dod yn ôl i'r Siambr â mwy o fanylion pan fydd gennym hynny.

Rhaglenni drwgweithredwyr—mae’n ddyddiau cynnar ar gyfer hyn. Mae gennyf dystiolaeth i weld sut y maent yn effeithiol. Ond mae gwaith Alun Michael, gyda chomisiynwyr heddlu eraill o Loegr, a dweud y gwir, wedi gwneud argraff dda iawn arnaf; mae tri awdurdod heddlu yno yn ymarfer yr ymgyrch 'Drive', fel y'i gelwir, gan weithio gyda thramgwyddwyr ar gyfraddau achosion uchel iawn. Maent eisoes yn gweld cynnydd gwych lle nad yw drwgweithredwyr weithiau’n sylweddoli eu bod mewn gwirionedd yn cael effaith ar eu partneriaid mewn unrhyw ffordd.

Mae Mark Isherwood yn codi pwynt pwysig iawn, sydd eto’n agos at fy nghalon. Mae'n fater o siarad â phobl sydd wedi profi hyn mewn gwirionedd. Anghofiwch y—rwy’n meddwl y dylem ddefnyddio gwaith academyddion a'r gwasanaeth sifil, sy’n gwybod llawer am hyn; ond y bobl go iawn sy'n gwybod am hyn yw'r bobl y mae hynny wedi effeithio arnynt. Pobl fel ffrind da i mi, Rachel Court, neu Rachel Williams, a saethwyd yng Nghasnewydd gan ei chyn ŵr, ac a gollodd wedyn, o fewn wythnosau, ei mab ei hun hefyd. Gall hi ddweud stori ddramatig iawn wrthych ynghylch sut yr effeithiodd hyn arni hi a'i theulu. Nawr, mae hi'n teimlo ei bod ar genhadaeth fel goroeswr i helpu pobl i ymdrin â'r materion hyn. Hoffwn wrando ar bobl fel Rachel fel y gallwn ddatblygu polisi Llywodraeth a fydd yn wirioneddol ystyrlon i bobl go iawn.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 4:08, 21 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n croesawu datganiad yr Ysgrifennydd Cabinet a'i ymrwymiad clir i fwrw ymlaen â’r ddeddfwriaeth arloesol a luniwyd yng Nghymru, ac adeiladu arni, a gyflwynwyd gan ei ragflaenwyr Lesley Griffiths a Leighton Andrews. Mae'r cynlluniau manwl a nodir yn y datganiad yn dangos ymrwymiad gwirioneddol i symud ymlaen a throi deddfwriaeth feiddgar yn weithredu beiddgar a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ein cymunedau ac i fywydau llawer o bobl sy'n dod i gysylltiad â thrais yn y cartref.

Hoffwn ofyn i’r Gweinidog sut y mae hyn yn rhyngweithio â deddfwriaeth arall Cymru a Lloegr a gyflwynwyd yn Senedd y DU, yn enwedig y trosedd diweddar o dan Ddeddf Troseddau Difrifol 2015, Cymru a Lloegr, o ymddygiad cymhellol a rheolaethol. Cafodd groeso mawr gan ei fod yn cydnabod, mewn modd du a gwyn pendant, pa mor gyffredin a distrywiol yw’r math hwn o gam-drin sy’n aml yn gudd ac yn anoddach ei ganfod. Fel y mae'r Athro Evan Stark o brifysgol Rutgers, ymgyrchydd ar y mater hwn ers amser maith, wedi’i ddweud:

Rheolaeth gymhellol yw’r cyd-destun mwyaf cyffredin ar gyfer cam-drin menywod, a’r mwyaf peryglus hefyd.

Yn y gorffennol, mae'r gyfraith wedi ymddangos yn annigonol pan gaiff swyddogion yr heddlu eu galw i ddigwyddiadau o gam-drin domestig, yn anad dim oherwydd, yn rhy aml, dim ond gweithred gorfforol sy’n achosi anaf gwirioneddol neu ddifrod troseddol a fyddai'n arwain at arestio. Mae trosedd ymddygiad cymhellol, y trosedd newydd hwn, yn caniatáu i asiantaethau gorfodi nodi patrwm o ymddygiad camdriniol a gweithredu arno pan fo dioddefwyr yn dioddef ymddygiad rheolaethol, diraddiol a cham-drin emosiynol a gwneud hyn cyn iddo droi’n drais corfforol gwirioneddol. Ond, bydd angen set sgiliau newydd ar gyfer hyn, ar swyddogion yr heddlu ac asiantaethau eraill i ganfod yr ymddygiad hwn ac i gasglu'r dystiolaeth sydd ei hangen ar gyfer erlyniad ac euogfarn. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet sicrhau, yng ngoleuni'r fframwaith hyfforddiant cenedlaethol sydd i’w groesawu, y cynllun arbrofol Gofyn i Mi, a chymaint o waith da sydd nawr yn digwydd ar sail aml-asiantaeth, y gallwn hyrwyddo defnydd llwyddiannus o'r pwerau newydd hyn ar ymddygiad cymhellol a rheolaethol ac ychwanegu at waith pobl fel comisiynydd heddlu de Cymru Alun Michael—rwyf yn deall ei fod wedi cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet yn ddiweddar iawn—sy’n gweithio gyda phartneriaid ar lawr gwlad mewn seminarau, mewn gweithdai ac mewn mannau eraill i ddatblygu ymwybyddiaeth o'r pwerau newydd hyn a dealltwriaeth o sut i ddefnyddio’r pwerau newydd hyn a’u rhoi ar waith?

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 4:10, 21 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am ei sylwadau. Bydd pobl sy'n fy adnabod yn deall yn iawn bod rhai pethau sy'n fy nghyffroi am y cyfle hwn i wneud gwahaniaeth; dyma’r maes lle rwy'n wirioneddol angerddol am wneud gwahaniaeth, oherwydd dyma'r gwahaniaeth rhwng byw a marw. I lawer o bobl sydd wedi dioddef yr ail o’r rhain yn drasig, mae'n un ffordd o ddianc rhag trais yn y cartref, ond mae'n drasiedi iddynt hwy ac i’w teuluoedd a'u ffrindiau.

Bydd y mater ynglŷn â’r strategaeth genedlaethol yn un pwysig. Mae'n ymwneud â chyflawni—a ydym ni'n gwneud hyn yn iawn ac a allwn ni gyflawni ar bob un o'r materion y mae'r Aelod yn eu codi: y rheolaeth gymhellol, camfanteisio’n rhywiol ar blant, rheolaeth gorfforol, ar lafar, gymhellol, ac ariannol—mae’r rhain i gyd yn dylanwadu ar bobl ac mae’n rhaid inni wneud yn siŵr y gallwn, gyda'n gilydd, ddod o hyd i atebion i hynny. Mae Llywodraethau yn gwneud llawer o bethau, ac nid ydynt bob amser yn cael y pethau hyn yn iawn, ond mae rhai pobl allan yna sy'n arbenigwyr yn y maes, a'r hyn y mae’n rhaid inni ei wneud yw agor y drysau i sicrhau ein bod yn dod â’r bobl hyn at ei gilydd, gweithio gyda chynghorwyr cenedlaethol a gweithio gyda grŵp cynghori. Rwy'n ystyried adnewyddu'r grŵp cynghori, oherwydd pan oeddem yn datblygu'r darn arloesol hwn o ddeddfwriaeth, a gafodd gydnabyddiaeth ledled y byd, gwnaethom wrando ar bobl a deall ei wir ystyr ar gyfer cyflawni. Dyna'r hyn yr wyf yn bwriadu ei wneud wrth inni symud ymlaen i roi’r Ddeddf hon ar waith. Mae'n ddechrau gwych, ond mae cymaint mwy o waith y gallwn ei wneud ar y cyd.