– Senedd Cymru am 5:30 pm ar 21 Mehefin 2016.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, o'r enw, 'Diweddariad ar "Tuag at Dwf Cynaliadwy: Cynllun Gweithredu ar gyfer Diwydiant Bwyd a Diod 2014-2020”. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet Lesley Griffiths i gynnig y datganiad.
Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Mae'r cynllun gweithredu bwyd a diod yn cyflwyno ein strategaeth bwyd yng Nghymru. Fe’i cyhoeddwyd ymhell o flaen Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae'n cyflawni ar bob un o'r saith o nodau lles. Mae 48 cam gweithredu’r cynllun yn cwmpasu pum blaenoriaeth, gan gynnwys bwrdd arweinyddiaeth o arweinwyr diwydiant a sector; tarddiad cryf ar gyfer bwyd a diod Cymru; mwy o hyfforddiant, uwchsgilio ac arloesedd; twf cynaliadwy ar gyfer busnesau a masnach; a ffocws ar ddiogelwch a diogelu’r cyflenwad bwyd. Mae bwrdd diwydiant Bwyd a Diod Cymru, dan gadeiryddiaeth Andy Richardson, yn bwrw ymlaen â ffrydiau gwaith gan gynnwys busnes a buddsoddiad, cwsmeriaid a marchnadoedd, a phobl a sgiliau. Bydd y gwaith hwn yn fy hysbysu o'r camau gweithredu pellach sydd eu hangen ar gyfer twf parhaus.
Mae twf y sector bwyd yn cyfrannu at y nod o greu Cymru lewyrchus. Mae’r diwydiant hwn yn un sylweddol iawn yn economi Cymru. Mae gan y gadwyn fwyd o'r fferm i'r fforc drosiant o dros £15.5 biliwn ac mae'n cyflogi dros 220,000 o bobl a dyma gyflogwr mwyaf Cymru. Mae'r cynllun gweithredu yn gosod targed uchelgeisiol i dyfu trosiant y sector bwyd a ffermio o 30 y cant i £7 biliwn y flwyddyn ac i gyflawni hyn erbyn 2020. Ddwy flynedd yn ddiweddarach ac mae'r twf wedi rhagori ar y disgwyliadau ar 17 y cant i £6.1 biliwn ac mae eisoes yn fwy na hanner ffordd tuag at darged 2020.
Felly, sut mae’r twf hwn yn edrych? Yn 2014-15, cyfrannodd ein rhaglen dwf yn uniongyrchol at dros £10 miliwn mewn twf gwerthiant a chreu 550 o swyddi. Mae cymorth busnes yn cynnwys Cymru-Iwerddon, rhaglen clystyrau a ariennir gan Ewrop, a gefnogir gan Ifor Ffowcs-Williams, pennaeth dadansoddi a chlystyrau’r UE. Mae'r rhaglen eisoes wedi ymgysylltu â bron hanner y gwneuthurwyr bwyd yng Nghymru. Mae clystyrau presennol yn cynnwys cynnyrch premiwm, busnesau twf uchel, arloesi mewn cynhyrchion maethol iachach, a chlwstwr penodol i fwyd môr.
Rwyf hefyd yn falch o gyhoeddi y byddwn yn lansio clwstwr allforio yn ddiweddarach eleni. Bydd datblygiadau pellach o farchnadoedd allforio yn parhau i fod yn hanfodol wrth ymdrechu tuag at weledigaeth y cynllun. Mae'r diwydiant yn cynhyrchu dros £260 miliwn o allforion, gyda bron 90 y cant o’r rheini i'r Undeb Ewropeaidd. Mae hyn yn gynnydd o dros 102 y cant ers 2005.
Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae ein rhaglenni digwyddiadau allforio a masnach wedi helpu busnesau Cymru i gyflawni dros £7 miliwn o werthiannau newydd, ac mae dros £15 miliwn o ragolygon yn cael eu datblygu. Mae'r gefnogaeth a gynigiwn i gynhyrchwyr bwyd yn cynnwys cyngor pwrpasol, arddangos, cymorth i fynychu digwyddiadau masnach, teithiau allforio ymroddedig i dargedu marchnadoedd, a chyfarfodydd busnes wedi’u hwyluso. Mae busnesau mewn rhannau eraill o'r DU yn awr yn edrych ar Gymru fel enghraifft o arfer gorau.
Mae buddsoddiad tramor uniongyrchol yn gwneud cyfraniad pwysig i dwf. Rydym yn targedu yn ein dull ni o weithredu, gan ei bod yn ofynnol i’r diwydiant bwyd a diod adeiladu perthynas dros amser. Llwyddiant nodedig yn y cyfnod diweddar yw Calbee, y gwneuthurwr bwyd byrbryd Siapaneaidd a sefydlwyd yng Nglannau Dyfrdwy yn 2015, a grëodd hyd at 100 o swyddi. Mae Calbee yr union fath o gwmni yr ydym yn falch o’i helpu. Mae'n arloesol; yn cynhyrchu byrbrydau iach, sy’n seiliedig ar lysiau, i ateb y galw cynyddol gan ddefnyddwyr am fyrbrydau.
Mae gan y diwydiant bwyd gyfrifoldeb i greu Cymru iachach. Mae deiet a maeth yn benderfynyddion pwysig o hyd oes ac ansawdd bywyd. Pwysleisiodd ein cynhadledd bwyd at y dyfodol y cyfrifoldeb a rennir ar draws y gadwyn fwyd i gefnogi bwyta'n iachach. Rhaid i wneuthurwyr edrych i ailffurfio cynnyrch tra mae'n rhaid i adwerthwyr a gwasanaeth bwyd ddarparu labeli clir sy’n llawn gwybodaeth ac annog dewisiadau iach.
Rydym yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (NPS) drwy ei fforwm categori bwyd i ffactoreiddio meini prawf bwyta'n iach i mewn i'r broses dendro. Mae saith deg tri o gyrff cyhoeddus yn awr wedi ymrwymo i ddefnyddio NPS mewn meysydd gwariant cyffredin ac ailadroddadwy. Byddaf yn parhau i noddi Arloesi Bwyd Cymru, sy'n darparu cyfleusterau ac arbenigedd ymchwil a datblygu ar gyfer gweithgynhyrchwyr bwyd, gan gynnwys gweithgynhyrchu cynhyrchion iachach. Yn y flwyddyn ddiwethaf, roedd £12 miliwn o dwf ychwanegol mewn busnesau yng Nghymru yn deillio o ddatblygu cynnyrch a phroses newydd.
Gall tlodi bwyd fod oherwydd diffyg fforddiadwyedd neu fynediad cyfyngedig i alluogi dewisiadau iach. Rydym yn cefnogi llawer o fentrau i fynd i'r afael â thlodi bwyd—rhai sydd wedi hen sefydlu megis tyfu cymunedol a chwmnïau cydweithredol bwyd cymunedol. Mae'r gynghrair tlodi bwyd newydd yn gydgyfarfod o sefydliadau yn y sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector ac mae’n datblygu gwaith i fynd i'r afael â newyn gwyliau mewn plant ysgol, a gafodd ei dreialu gan Fwyd Caerdydd y llynedd. Bydd y gynghrair hefyd yn ymchwilio i sut i wella'r nifer sy'n cael prydau ysgol am ddim a bydd yn gweithio gyda manwerthwyr i fod yn bartner iddynt i fynd i'r afael â mentrau tlodi bwyd.
Rydym yn darparu cefnogaeth sylweddol i fusnesau bwyd er mwyn eu galluogi i fod yn gyfrifol yn fyd-eang. Mae'r gwasanaeth Cymru Effeithlon yn helpu busnesau i gyflawni effeithlonrwydd o ran defnydd dŵr ac ynni a chyflawni rheoli gwastraff mwy effeithiol. Rydym yn llofnodwyr i Courtauld 2025, sef cytundeb gwirfoddol uchelgeisiol sy'n dod â sefydliadau a busnesau ynghyd ar draws y system fwyd i dorri allyriadau gwastraff a nwy tŷ gwydr sy'n gysylltiedig â bwyd a diod gan o leiaf un rhan o bump erbyn 2025. Rydym yn annog busnesau i fod yn llofnodwyr. Mae cyfrifoldeb byd-eang yn ymestyn i ddyluniad ein cynlluniau grant. Mae'r cynllun buddsoddi mewn busnesau bwyd yn cynnwys mesurau cynaliadwyedd yn ei broses sgrinio ceisiadau. Mae'r rownd gyntaf wedi nodi £197 miliwn o fuddsoddiad ac 1,333 o gyfleoedd gwaith newydd posibl.
Mae cyfraniad y diwydiant bwyd i gymunedau cydlynol yn gwbl amlwg yn ein cefnogaeth i wyliau bwyd. Dywedodd gwerthusiad annibynnol yn 2015, gyda'i gilydd, yr amcangyfrifir eu bod yn cefnogi 417 o swyddi yn economi Cymru ac yn dod â £25 miliwn net ychwanegol y flwyddyn drwy fasnachu, ond hefyd trwy fusnes a gynhyrchir yn yr economïau lleol o amgylch gwyliau.
Mae diogelu’r cyflenwad bwyd a diogelwch bwyd yn flaenoriaethau yn y cynllun ac yn holl bwysig tuag at greu Cymru wydn. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd i wella diogelwch bwyd. Mae'r cynllun sgoriau hylendid bwyd wedi bod yn llwyddiant aruthrol mewn codi safonau mewn sefydliadau arlwyo ac yn esiampl i genhedloedd eraill. Mae gwytnwch diwydiant bwyd a diod Cymru yn y sector preifat yn bennaf ac mae cynlluniau wrth gefn wedi'u datblygu'n dda ar waith. Mae bwyd yn un o'r sectorau allweddol a gynrychiolir ar ein grŵp llywio gwytnwch mewnol. Rydym yn cymryd rhan yn y rhaglen diogelwch bwyd byd-eang ac yn y grŵp cyswllt mewn argyfwng yn y gadwyn fwyd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, sy'n asesu risgiau i gyflenwad bwyd ac yn lliniaru bygythiadau.
Mae digwyddiadau bwyd yn gyfrwng gwych i hyrwyddo ein diwylliant bywiog a’r iaith Gymraeg sy’n ffynnu. Mae hunaniaeth Bwyd a Diod Cymru bellach yn cael ei gydnabod yn dda yn rhyngwladol ac yn cael ei barchu yn eang. Lansiwyd ein gwefan y llynedd i gyfathrebu a hysbysu diwydiant, rhanddeiliaid a'r cyhoedd am ein cenedl fwyd Cymru ac rydym wedi cofnodi bod dros 5,000 wedi gweld y dudalen a 1,500 o ddilynwyr Twitter. Rydym wrthi'n gweithio gyda nifer o gynhyrchwyr Cymru o ansawdd i sicrhau llawer mwy o gynhyrchion enw bwyd wedi’i amddiffyn ac mae Cymru yn dod yn gyfystyr â threftadaeth bwyd gyfoethog.
Ddirprwy Lywydd, rwyf wedi cyflwyno ciplun heddiw o'r hyn a gyflawnwyd gan y cynllun gweithredu bwyd a diod. Mae'r cynllun yn ymwneud â llawer mwy na bwyd; mae'n ymwneud â chyflawni ein haddewidion i genedlaethau'r dyfodol.
Diolch. Galwaf ar lefarydd Plaid Cymru, Simon Thomas.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad. Rwy’n teimlo’n hyderus wrth ymateb i’r datganiad yma, achos dyma’r sector o’r economi rwy’n gwneud y cyfraniad personol mwyaf iddi hi, sef bwyd a diod, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at ddathlu gyda’r NFU, yma yn y Cynulliad yfory, y bwyd o Gymru, a dathlu hefyd gyda CAMRA, ar ddiwedd y Cynulliad yfory, y ddiod o Gymru. Felly, rwy’n awyddus iawn i weld bod y sector yma, sydd wedi tyfu, fel y mae’r Gweinidog wedi dweud yn ei datganiad, dros y ddwy flynedd diwethaf, yn parhau i dyfu ac yn parhau i dyfu fwyfwy hefyd.
A gaf i ddechrau, felly, gyda chwestiwn ynglŷn â pherthynas y datganiad heddiw ar y sector yma gyda’n haelodaeth ni o’r Undeb Ewropeaidd? Rydym i gyd yn gyfarwydd, wrth gwrs, â’r ffaith bod pethau megis PGI ar gig oen Cymru yn helpu i hyrwyddo y cig hwnnw ac, wrth gwrs, mae dros 90 y cant o gynnyrch cig a llaeth Cymru sy’n cael ei allforio yn cael ei allforio i’r Undeb Ewropeaidd, sy’n dangos i mi fod hwn yn faes hollbwysig i ni barhau i fod yn aelodau ohono. Hoffwn ofyn i’r Ysgrifennydd pa asesiad sydd wedi cael ei wneud o’r berthynas â’r Undeb Ewropeaidd a thwf yn y sector yma. Ac os caf yn fanna jest ofyn un peth penodol iddi hi, efallai na fydd hi’n gallu ateb heddiw, ond os gall hi edrych am yr hyn sydd wedi digwydd i gais 'Carmarthen ham', cig moch hallt o Gaerfyrddin, ar gyfer dyfarniad PGI, achos rwy’n deall bod y cais yna ar hyn o bryd yn dal i hongian, fel 'Carmarthen ham' a dweud y gwir, ac mae eisiau symud ymlaen i wella hynny.
A gaf i droi at yr ail beth rwyf eisiau ei godi gyda’r Ysgrifennydd Cabinet, sef yr hyn rydym yn ei wneud ynglŷn â gwastraff bwyd? Fe soniodd yr Ysgrifennydd Cabinet am gytundeb Courtauld 2025. Dyma ymrwymiad sydd heb unrhyw ddyletswydd o gwbl i leihau gwastraff bwyd gan fusnesau a gan y sector cynhyrchu bwyd. Rwy’n siomedig iawn nad yw Llywodraeth San Steffan wedi mynd ati i ddeddfu, a dweud y gwir, fel ein cyfeillion ni yn Ffrainc, i gyfyngu ar wastraff bwyd ac i sicrhau bod dros 1 miliwn o dunelli o fwyd bob blwyddyn sy’n cael ei wastraffu, ond sydd yn addas i gael ei fwyta, yn cael ei gyfeirio at bobl sydd angen y bwyd yna. Ac yn y byd rydym i gyd yn byw ynddo, lle mae ein cymunedau ni yn llawn o fanciau bwyd, mae’n dal yn gywilydd ein bod ni’n gwastraffu cymaint o fwyd. Ac felly er fy mod i’n derbyn mai unig opsiwn Llywodraeth Cymru yw i fod yn rhan o Courtauld 2025, byddwn yn hoffi clywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet fod y Lywodraeth hon yn awyddus i ddeddfu fel maen nhw wedi ei wneud yn Ffrainc, i roi dyletswydd ar fasnachwyr bwyd mawr a chynhyrchwyr bwyd i leihau gwastraff bwyd, i ailgylchu gwastraff bwyd ac i roi unrhyw fwyd sydd dros ben sydd yn addas ar gyfer ei fwyta i’w ddosbarthu ymysg y bobl hynny sydd angen bwyd.
A thra’n bod ni’n sôn am bobl sydd angen bwyd, a gaf i droi at ran arall o’r datganiad sef yr un am fwyta’n iach? Mae’n siomedig i ddeall bod bwyta ffrwythau a llysiau ffres yn unol a’r canllawiau, sef pump y diwrnod—er bod y rheini wedi codi, rwy’n meddwl, i saith y diwrnod nawr yn ôl rhai—. Ond, beth bynnag, rydym yn stryglo i hyd yn oed gyrraedd pump y diwrnod yma yng Nghymru, ac rydym wedi lleihau o 36 y cant o’r boblogaeth i 32 y cant o’r boblogaeth. Felly, rydym yn mynd tua’n ôl ynglŷn â chael pobl i fwyta mwy o fwyd iach, ac mae hynny yn gyswllt yn ôl, wrth gwrs, i’r datganiad a gawsom ni gan yr Ysgrifennydd iechyd gynnau fach.
Roedd Plaid Cymru yn ystod yr ymgyrch ddiwethaf wedi cynnig bod modd gwneud ffrwythau am ddim—rhoi powlenni o ffrwythau am ddim ym mhob ysgol a phob dosbarth ysgol yng Nghymru. A ydych chi’n meddwl bod hynny yn syniad da, ac oes modd cyflawni hynny gan ddefnyddio yn arbennig ffrwythau ffres o Gymru? Mae gennym mi fefus neu syfi hyfryd ar hyn o bryd. Fe fydd gellyg ac afalau hyfryd o Gymru, ac mae modd cyflwyno hynny i’n hysgolion ni.
Y maes arall rwyf eisiau troi ato yw un o ddiogelwch bwyd. Roeddech yn sôn am ddiogelwch bwyd yn y datganiad. Mae’r ffigur diweddaraf yn dangos mai dim ond 46 y cant o fwyd sy’n cael ei fwyta ym Mhrydain sy’n cael ei gynhyrchu ym Mhrydain, ac rydym wedi colli a llithro nôl yn sylweddol tu fewn i gynhyrchu bwyd yn lleol, a thu fewn i Gymru a Phrydain ar gyfer bwyta fan hyn. Nawr, mae rhai yn dadlau, wrth gwrs, mewn Undeb Ewropeaidd a marchnad sengl a byd rhyngwladol fod mewnforio bwyd ac ati yn mynd i fod yn ran bwysig o hynny. Rwy’n derbyn hynny yn llwyr, wrth gwrs, ond byddwn yn licio gweld ei bod yn fwriad gan y Llywodraeth i gynyddu faint o fwyd sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru sy’n cael ei fwyta yng Nghymru, bod hwnnw yn amcan da ar gyfer ein ffermwyr ni, amcan da ar gyfer yr amgylchedd ac yn amcan da ar gyfer bwyta’n iach yn ogystal. Ac roeddwn yn siomedig iawn i glywed arweinydd UKIP gynnau fach wrth ofyn cwestiwn i’r Prif Weinidog yn awgrymu bod modd symud ymaith yn llwyr oddi wrth gymorth i ffermwyr yng Nghymru a mewnforio bwyd yn tsiêp, yn hytrach na chynhyrchu ein bwyd ni yn iachus ac yn dda i’r amgylchedd fan hyn yng Nghymru.
Y pwynt olaf rwyf eisiau ei godi, Ddirprwy Lywydd—diolch am eich amynedd—yw un ynglŷn â sut rydym yn defnyddio bwyd i roi argraff dda o’r wlad hon—o’r genedl felly. Rŷm ni’n gwybod bod pêl-droed yn gwneud hynny yn ddiweddar iawn, ond rwy’n meddwl bod gan fwyd hefyd rôl hynod o bwysig i chwarae yn fan hyn.
A gaf i ofyn i chi, a ydych chi o’r farn, fel y Gweinidog newydd sy’n edrych ar y maes yma, ein bod ni’n dathlu digon y bwyd a’r ddiod wych sydd gyda ni yng Nghymru? Rŷch chi’n sôn am yr ‘identity’ newydd yma i fwyd a diod o Gymru. Nid ydw i’n meddwl bod hynny wedi cydio—pan fod gan farf Joe Ledley mwy o ddilynwyr ar Trydar nag sydd gan fwyd a diod o Gymru, mae eisiau bach mwy o waith, rwy’n meddwl, i hybu hyn a hefyd i ddathlu. Mae yna—a byddwch chi’n rhan ohonyn nhw, mae’n siŵr, Weinidog—gannoedd o ffeiriau bwyd a digwyddiadau bwyd yn digwydd dros y misoedd nesaf ar hyd a lled Cymru. Rwy’n edrych ymlaen i fynd i Aberaeron i’r ffair bysgod, mae’r ffair bwyd môr Aberdaugleddau, Llambed—mae rhai ym mhob rhan o Gymru. Ond a ydym ni’n cydblethu’r rhain yn ddigon gyda marchnad ffermwyr hefyd a, rili, a ydych chi’n hapus gyda’r ffordd rŷm ni’n gwerthu bwyd Cymru y tu mewn i Gymru a thu hwnt hefyd? Rwy’n meddwl bod angen bach mwy o waith ar hyn. Fe gollwyd brand arbennig o gryf yn y gorffennol ac nid ydw i’n meddwl ein bod ni cweit wedi adennill y tir hwnnw.
Diolch i Simon Thomas am ei gwestiynau a’i sylwadau. Rwy'n falch o weld nad yw eich jôcs wedi gwella ers datganiad llafar yr wythnos diwethaf, ond rwy’n edrych ymlaen at ddathlu digwyddiadau’r NFU a CAMRA i'w cynnal yma yfory. O ran ham Caerfyrddin, dwi'n disgwyl sawl eitem o fwyd i dderbyn y PGI yn ddiweddarach eleni. Ni allaf roi dyddiad pendant ichi ond rwy'n obeithiol iawn y bydd yn digwydd yn ddiweddarach eleni.
Mewn perthynas â'r UE, yn amlwg bu’n rhaid gwneud gwaith cyn pleidlais ddydd Iau ond rwy'n hyderus iawn yn bersonol na fydd yn rhaid inni edrych y ffordd honno yn nes ymlaen. Ond rydym yn gwybod pe byddem yn cael Brexit y byddai'n cael effaith enfawr ar y diwydiant bwyd a diod. Y farchnad sengl yw maes masnach rydd mwyaf y byd yn nhermau cynnyrch domestig gros a phartner masnachu mwyaf y DU a Chymru. Rydym yn gwybod bod busnesau yn yr UE yn mwynhau marchnad gartref o ychydig dros 500 miliwn o bobl, ac mae gan hynny’r gallu i werthu nwyddau a gwasanaethau heb dariffau neu gyfyngiadau masnach eraill ac â safonau diogelwch cyffredin. Ac, fel y nodwyd gennych, dyma'r farchnad fwyaf ar gyfer allforion o Gymru. Felly, rydym yn gwybod pa niwed a fyddai'n ei gwneud i sector bwyd a diod Cymru.
Soniasoch am Courtauld 2025 a’ch siom nad oedd Llywodraeth y DU wedi deddfu yn y maes hwn fel Ffrainc, ac rwy'n awyddus iawn i gael golwg ar yr hyn y mae Ffrainc wedi ei wneud. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau'r effaith amgylcheddol gyda busnesau bwyd a hefyd wastraff bwyd. Mae rhywfaint o ymchwil a gyhoeddwyd yn gynharach eleni yn dangos bod 1.9 miliwn tunnell o fwyd yn cael ei wastraffu yng nghadwyn cyflenwi bwyd y DU bob blwyddyn. Mae hynny’n swm uchel iawn. Yn ffodus, mae tua 47,000 o dunelli o hynny yn cael ei ailddosbarthu i bobl sydd ei angen, ac mae hynny’n cyfateb i tua 90 miliwn o brydau bwyd y flwyddyn. Ond rwy’n awyddus iawn i wneud yr hyn a allwn i leihau'r gwastraff, a chyfarfûm â'r ASB y bore yma ac, rwy’n meddwl, mai un agwedd lle y gallem wella pethau rwy'n credu yw bod pobl yn mynd yn ddryslyd iawn gyda dyddiad ar ei orau cyn, defnyddio erbyn a gwerthu erbyn—chi’n gwybod, mae gennym yr holl bethau gwahanol hyn ar fwyd ac rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn bod pobl yn deall beth mae’r holl bethau gwahanol hyn yn ei olygu.
Codasoch fater am fwyta'n iach ac, yn sicr, pan oeddwn yn gwrando ar ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer iechyd daeth nifer o bethau i’r amlwg lle mae gorgyffwrdd yn digwydd gyda fy mhortffolio i o gwmpas gordewdra ac, rydych yn llygad eich lle, dylem fod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i annog pobl i fwyta o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd. Mae eich awgrym o gwmpas powlenni ffrwythau mewn ysgolion yn swnio'n dra synhwyrol ac am wn i, fel popeth, mae'n fwy na thebyg yn fater o gost. Ond byddwn yn hapus iawn i gael trafodaeth ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg mewn cysylltiad â hynny.
Soniasoch am ddiogelwch bwyd ac mae pwysau cynyddol byd-eang ar y cyflenwad bwyd. Ond rwy’n credu bod Cymru mewn sefyllfa dda iawn i ymateb i heriau newid yn yr hinsawdd, er enghraifft. Rwy'n meddwl bod y diwydiant da byw yng Nghymru yn dominyddu gan fod daearyddiaeth a hinsawdd Cymru yn addas iawn i systemau sy'n seiliedig ar laswellt ac mae rheolaeth gynaliadwy ar ein hadnoddau naturiol yn hanfodol i lwyddiant dyfodol ein heconomi a chreu dyfodol i'n holl gymunedau.
Rwy’n meddwl y bydd pêl-droed, mewn gwirionedd, yn cael effaith ar sector bwyd Cymru. Rydym yn gweld Cymru ar lwyfan na fydd llawer o bobl o bosibl wedi gweld Cymru arno o’r blaen, gyda'r pêl-droed, a bydd mwy o bobl yn gwybod ble mae Cymru, ac ni allwn ond adeiladu ar hynny. Felly, rwy’n meddwl y byddai'n gyfle da iawn dros y misoedd nesaf. Fel y dywedwch, byddwn yn cael llawer o sioeau a gwyliau haf, ac rwy'n siŵr y bydd ein llwybrau'n croesi mewn llawer ohonynt, ond rwy’n credu ei fod yn gyfle da iawn. Gallwn bob amser wneud mwy i ddathlu. Rwy’n meddwl ein bod yn gwneud llawer iawn i ddathlu ein sector bwyd a diod rhagorol, ond, wrth gwrs, gallwn bob amser wneud mwy, ac rwy'n awyddus iawn i wneud hynny.
Iawn, diolch. Llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad heddiw a dymuno’r gorau iddi yn ei rôl newydd? Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda hi yn adeiladol lle bynnag y gallaf i helpu i wneud ein cymunedau gwledig yn fwy ffyniannus a chynaliadwy yn y dyfodol. Fel yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, rwyf innau hefyd yn ôl pob tebyg yn gwneud cyfraniad sylweddol i'r sector hwn—gormod efallai.
O ran y cynllun gweithredu ar gyfer y diwydiant bwyd a diod, er fy mod yn derbyn y bu rhywfaint o gynnydd, mae digon o waith i'w wneud o ran y broses o gaffael bwyd a diod ar gyfer contractau sector cyhoeddus. Rwy’n sylweddoli, y llynedd, bod y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi dwyn caffael bwyd o fewn ei gwmpas a bod 73 o gyrff cyhoeddus bellach yn ymrwymedig i ddefnyddio'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol. Fodd bynnag, a all Ysgrifennydd y Cabinet fod yn fwy penodol a dweud wrthym sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gweithdrefnau dethol cyflenwyr cadarn ar waith ar gyfer contractau bwyd ar draws Cymru er mwyn sicrhau nad yw ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd Cymru yn colli allan ar y contractau pwysig iawn hyn?
Mae maes allweddol o'r cynllun gweithredu hwn yn gysylltiedig ag addysg, hyfforddiant a sgiliau ar gyfer y sector bwyd a diod, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn ei groesawu'n fawr iawn. Rwy'n falch o weld o ddiweddariad y llynedd bod bagloriaeth Cymru wedi cael ei hadolygu i gynnwys modiwlau bwyd a diod, a byddwn i'n croesawu diweddariad ar y cynnydd hwnnw. Fodd bynnag, credaf fod angen gwneud mwy ar lefel iau i ddysgu plant a phobl ifanc o ble y mae eu bwyd yn dod. Cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet yn gynharach at hybu bwyta'n iach yn gyffredinol, felly a all hi ddweud wrthym pa drafodaethau y mae hi wedi'u cael gyda'i chydweithiwr Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg am godi proffil bwyd ac amaethyddiaeth o fewn y system addysg, efallai drwy'r cwricwlwm neu drwy gynlluniau gwirfoddol a lleoliadau gwaith?
Yn y crynodeb o ymatebion i'r cynllun gweithredu hwn, mynegwyd pryderon am yr anhawster o ran deall pa hyfforddiant sydd ar gael a sut i gael gafael arno. Yn benodol, teimlai ymatebwyr nad oedd y Llywodraeth yn gydgysylltiedig yn ei dull, yn benodol gyda'r Adran Addysg a Sgiliau a hefyd gyda chyrff sy'n bartneriaid, gan gynnwys cynghorau sgiliau sector. Yng ngoleuni hyn, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa welliannau penodol sydd wedi'u gwneud ers lansio'r cynllun gweithredu mewn cysylltiad â'r pryderon penodol hyn.
Os ydym yn dymuno gweld ein diwydiant bwyd a diod yn ffynnu, yna mae datblygu gweithlu medrus yn hanfodol, a rhaid i Lywodraeth Cymru feithrin cysylltiadau cryfach â busnesau a darparwyr addysg i ddiwallu’r bwlch sgiliau yn y diwydiant. Byddwn yn ddiolchgar pe byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ymrwymo i efallai gyhoeddi ystadegau creu swyddi a ffigurau cyfleoedd cyflogaeth gyda phob diweddariad blynyddol fel y gall Aelodau wir graffu ar gamau gweithredu Llywodraeth Cymru yn y maes penodol hwn.
Rwy’n sylweddoli bod cynllun gweithredu twristiaeth bwyd ar wahân i Gymru 2015-20, ac rwy’n llwyr gefnogi pwysigrwydd twristiaeth bwyd yng Nghymru a'r angen am strategaeth ar wahân. Fodd bynnag, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym sut y mae hi'n sicrhau bod strategaethau eraill, fel y cynllun gweithredu twristiaeth bwyd a'r strategaeth gaffael bwyd, mewn gwirionedd yn cydgysylltu â pholisïau eraill Llywodraeth Cymru a'u bod yn gydgysylltiedig mewn gwirionedd?
Fel y dywedodd yr Aelod dros y Canolbarth a’r Gorllewin yn gynharach, mae gwyliau bwyd yn chwarae rhan bwysig mewn hyrwyddo ein diwydiant bwyd a diod, felly mae'n bwysig eu bod yn cael cymaint o gefnogaeth ag y bo modd. Awgrymwyd i mi fod yr arian y mae bob gŵyl fwyd yn ei gael gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gapio ar ffigur penodol. A allai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a yw hyn yn wir? Siawns y dylai arian gael ei ddarparu i’r gwyliau hyn ar sail achos ac mae'n hanfodol bod hyblygrwydd yn y broses ariannu er mwyn sicrhau bod gwyliau yn cael eu cefnogi'n briodol. Mae marchnadoedd ffermwyr hefyd yn chwarae rhan bwysig mewn arddangos bwyd a diod Cymru ac, yn benodol, drwy helpu cynhyrchwyr llai i hyrwyddo cynnyrch rhanbarthol. Mae marchnadoedd ffermwyr gwych ledled Cymru—cryn dipyn ohonynt yn fy etholaeth i fy hun—felly a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym sut y mae'r strategaeth hon yn cefnogi’r marchnadoedd ffermwyr penodol hynny?
Ddirprwy Lywydd, wrth wraidd unrhyw gynllun gweithredu ar gyfer y diwydiant bwyd a diod rhaid cael strategaeth allforio gref, ac rwy’n gwerthfawrogi bod Llywodraeth Cymru yn lansio clwstwr allforio yn ddiweddarach eleni. Fodd bynnag, a wnaiff hi ddweud wrthym ychydig mwy am sut mae Llywodraeth Cymru yn nodi cyfleoedd busnes marchnadoedd cartref a rhyngwladol? Fel y mae’r cynllun yn datgan, mae datblygu'r farchnad allforio yn cael ei hyrwyddo gan adrannau Llywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd, a Llywodraethau ar bob lefel yn gweithio gyda'i gilydd. Rwy’n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan yn y rhaglen diogelwch bwyd byd-eang ac yn y grŵp cyswllt mewn argyfwng yn y gadwyn fwyd DEFRA, fodd bynnag, a all hi ddweud wrthym pa ganlyniadau sydd wedi cael eu gwireddu o ran diogelu’r cyflenwad bwyd a diogelwch bwyd i gynhyrchwyr Cymru?
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog, unwaith eto, am ei datganiad? Edrychaf ymlaen at weld rhai o'r themâu yn y cynllun hwn yn cael eu datblygu ymhellach i helpu diwydiant bwyd a diod Cymru i ffynnu yn y dyfodol.
Diolch i Paul Davies am ei gwestiynau a’i sylwadau, ac rwyf innau, hefyd, yn edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio gydag ef yn y maes pwysig iawn hwn. Gofynasoch am y broses o gaffael cynhyrchion a chynnyrch Cymru yn y sector cyhoeddus, ac, fel y dywedais, rydym wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, a gafodd, fel y gwyddoch, ei sefydlu yn ôl yn 2013, rwy’n meddwl, a gwnaeth hwnnw ddwyn ynghyd y broses o gaffael gwariant cyffredin ac ailadroddus ar draws y sector cyhoeddus ar sail unwaith ar gyfer Cymru. Sefydlodd yr NPS fforwm categori bwyd i ddatblygu strategaeth fwyd, a fydd yn llywio'r broses o ddod â chaffael bwyd o fewn ei gwmpas trwy gydol 2016. Mae'r isadran bwyd yn eistedd ar fforwm categori bwyd yr NPS, ac rydym wrthi'n gweithio â'r NPS a rhanddeiliaid allweddol.
Rydym bellach wedi cael nifer o eitemau newydd sy'n cael eu caffael yn ystod y flwyddyn: brechdanau wedi’u paratoi, llenwadau brechdanau a darpariaeth bwffe, er enghraifft, a phrydau plât wedi’u rhewi. Rydym yn gwneud yn siŵr ein bod yn gweithio—y gwasanaeth iechyd gydag awdurdodau lleol—i wneud yn siŵr ein bod yn y sefyllfa orau i ddefnyddio cynnyrch Cymru.
Yr hyn y mae'r NPS yn anelu ato, yn y lle cyntaf, yw gosod contractau am gyfnod o ddwy flynedd, yna mae’r opsiwn i gael estyniad un flwyddyn, ac rydym yn awr yn dechrau datblygu’r dogfennau tendro. Bydd y fforwm categori bwyd yn datblygu'r ddogfennaeth hon wrth i ni symud ymlaen, ac mae fy swyddogion yn cymryd rhan lawn yn y broses hon ac yn gweithio gyda’r NPS i nodi cyflenwyr addas yng Nghymru i roi’r cyfle iddynt i gynnig am y fframweithiau.
Codasoch y pwynt am addysg, hyfforddiant, sgiliau ac arloesedd, ac mae hynny'n eithriadol o bwysig. Rwy'n credu mai’r hyn y mae angen i ni ei sicrhau yw bod gennym weithlu medrus iawn a galluog wrth symud ymlaen, ac mae hynny’n ymwneud â datblygu partneriaethau allweddol o fewn y gadwyn gyflenwi sgiliau. Mae hynny'n golygu ymgysylltu ag addysg uwchradd ac addysg uwch, ac rwyf wedi cael rhai trafodaethau anffurfiol gyda'r Gweinidog Addysg. Rwy'n awyddus iawn i weld pobl ifanc yn cael eu dwyn i mewn i ddangos iddynt beth y gellir ei gynnig fel gyrfa o fewn y sector bwyd a diod, a soniasoch am y gwaith sydd wedi ei wneud o fewn y fagloriaeth Cymru ddiwygiedig, lle’r ydym wedi nodi ffyrdd o gyflwyno modiwlau bwyd, er enghraifft. Rydym hefyd wedi gweithio gyda'r cynghorau sgiliau sector i gefnogi datblygiad llysgenhadon gyrfa yn y diwydiant bwyd, fel y gallwn hyrwyddo cyfoeth o gyfleoedd sydd—fel y dywedais, dyma gyflogwr mwyaf Cymru: 222,000 o bobl os ydych yn cynnwys adwerthu a bwytai a phob agwedd ar fwyd a diod. Felly, dyma’r cyflogwr mwyaf sydd gennym ar draws Cymru. Yr hyn y mae’r cynghorau sgiliau sector wedi ei wneud yw datblygu paneli sgiliau diwydiannol yn y sector llaeth, mewn sgiliau technegol a sgiliau gweithgynhyrchu, a bydd hynny wedyn yn llywio'r gwaith o ddatblygu sgiliau diwydiannol a fydd yn ofynnol o fewn addysg a hyfforddiant.
Codasoch gwestiwn am dwristiaeth bwyd, ac, yn amlwg, mae gennym y cynllun gweithredu ar dwristiaeth bwyd. Mae hwnnw’n canolbwyntio ar bwysigrwydd bwyd a diod o Gymru yn nhermau profiad yr ymwelwyr, a dylai bwyd a diod, rwy’n credu, fod yn arwyddlun o ddiwylliant Cymru a chael enw da yn rhyngwladol am ansawdd a dilysrwydd sydd wir yn adlewyrchu a hyrwyddo gwerthoedd cadarnhaol iawn o darddiad Cymreig. Credaf fod rhai enghreifftiau rhagorol y gallaf eu rhoi i chi o gydweithio rhwng twristiaeth a'r diwydiant bwyd ar draws Cymru, yn cynnwys busnesau megis Bwyty Dylan’s ym Mhorthaethwy, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth ennill y wobr efydd yn y gwobrau twristiaeth cenedlaethol diweddar yn y categori 'bwyta allan’.
Mae bwyd a thwristiaeth, rwy’n meddwl, yn arbennig o bwysig yng Nghymru oherwydd pwysigrwydd economaidd y ddau sector. Mae'n wir yn darparu rhan hanfodol o'r cynnig twristiaeth y credaf sydd gennym yma yng Nghymru, oherwydd ei fod yn cynnig, yn fy marn i y pwynt cyswllt mwyaf cyffredin ag ymwelwyr fwy na thebyg.
O ran allforion, soniasoch am raglen allforio well Hybu Cig Cymru. Yr hyn yr ydym ei eisiau yma, ac rydym wedi nodi hynny o fewn cynllun gweithredu strategol cig coch Cymru, yw ein bod am weld y diwydiant yn ceisio cynyddu gwerthiant. Bydd gwerthiant allforio yn amlwg yn elfen allweddol i hynny. Cefais rai sgyrsiau yn gynharach heddiw gyda rhywun sy’n berchen ar ladd-dy, ynghylch gwerthiant cig coch a'r sector cig coch yn benodol, oherwydd gwyddom fod allforion yn gwbl hanfodol i ffermio a'r diwydiant prosesu yng Nghymru. Maent yn cyfrif, yn fras, am un rhan o dair o'r holl gynhyrchu. Felly, mae cynyddu enillion i ddiwydiant trwy uchafu allforion yn wirioneddol bwysig yng Nghymru. Rwy'n falch iawn o weld bod rhaglen fuddsoddi tair blynedd Llywodraeth Cymru mewn cefnogi allforion a datblygu marchnadoedd newydd ar gyfer cig oen a chig eidion Cymreig o safon eisoes wedi cynhyrchu adenillion gwych.
O ran gwyliau bwyd, rwy’n cytuno y dylid cael rhywfaint o hyblygrwydd yn eu cylch. Mae gen i gyllideb anhyblyg iawn, yn anffodus. Hoffwn i gael mwy o arian, ond rwy’n meddwl eich bod yn iawn: mae'n ymwneud â sicrhau nad y gwyliau bwyd mawr yn unig sy'n cael yr arian; mae'n ymwneud â’r marchnadoedd ffermwyr bach hynny. Rwy’n cofio, pan gefais fy ethol y tro cyntaf, yn ôl yn 2007, rywun yn dod ataf i geisio sefydlu marchnad ffermwyr ac nid oedd arian ar gael. Felly, mae'n rhywbeth yr wyf wedi dweud wrth swyddogion y byddwn i'n awyddus iawn i’w weld, hyd yn oed os mai dim ond pot bach o arian ydyw, fel bod modd rhoi'r math hwnnw o ddechrau iddynt wrth ddatblygu, oherwydd gwyddom y gallai marchnad ffermwyr wella profiad canol y dref yn wirioneddol, ac rydym yn edrych ar sut y gallwn ni adfywio canol ein trefi. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn bwysig cael yr hyblygrwydd hwnnw.
Iawn. Diolch. Nid oes unrhyw aelodau o’r meinciau cefn wedi siarad, felly rwy’n bwriadu galw ar dri aelod o'r meinciau cefn, ond, unwaith eto, gofynnaf am gwestiynau cryno ac atebion cryno. Felly, Jeremy Miles.
Diolch, Lywydd. Diolch i'r Ysgrifennydd am ei datganiad. Mae'n sector mor bwysig i ni yng Nghymru, felly mae'n wych clywed am y twf cyflym yn y sector. I'r rhai hynny ohonom sy'n mwynhau bwyd, mae’r dadeni cynhyrchu bwyd lleol yng Nghymru yn fater o lawenydd mawr, hyd yn oed os yw'n arwain at dwf cyflym o fath sydd ychydig yn llai derbyniol efallai. [Chwerthin.]
Rydych chi wedi siarad am sgiliau yn eithaf helaeth, ond mae gennyf un pwynt penodol i’w ddatblygu ar hynny. Yn amlwg, roedd llenwi'r bwlch sgiliau yn flaenoriaeth bwysig yn y cynllun gweithredu, ac mae dwy gydran i hynny: denu gweithwyr medrus, yr ydych chi wedi siarad amdano, ond hefyd ddatblygu sgiliau'r gweithwyr presennol yn y gweithlu. Gan fod llawer o fusnesau yn y sector hwn yn fach ac, yn wir, yn ficrofusnesau ac yn ficro-gyflogwyr, byddant yn wynebu heriau penodol wrth ddarparu hyfforddiant a datblygiad proffesiynol i'w gweithlu. Felly, a fydd Llywodraeth Cymru yn cymryd camau penodol, gan gofio proffil cyflogwyr yn y sector, i gefnogi cyflogwyr bach a micro o ran hyfforddi a datblygu sgiliau eu gweithlu?
Diolch i chi, Jeremy Miles, am y cwestiwn hwnnw. Rwy’n meddwl eich bod yn codi pwynt pwysig iawn ynghylch sicrhau ein bod yn creu dulliau arloesol, ac efallai newydd, i annog hyfforddiant y diwydiant ar gyfer busnesau bach a chanolig. Yr hyn yr ydym yn mynd i’w wneud yw cael dull clwstwr, ac rydym eisoes yn treialu hyn gyda busnesau bwyd i gefnogi twf busnesau. Mae uwchsgilio a hyfforddi yn gwbl sylfaenol os ydym yn mynd i weld y twf, ac mae clystyrau hefyd yn nodi ac yn mynd i'r afael ag anghenion hyfforddi yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol bosibl. Rydym yn cael rhai cynlluniau peilot mewn bwydydd cain, NutriWales a'r sector bwyd môr, effaith ac allforio, lle mae nifer o fusnesau yn ymwneud yn uniongyrchol â’r datblygu sgiliau hwnnw. Fel Llywodraeth, mae gennym eisoes nifer o raglenni sgiliau allweddol, ond mae'n ymwneud ag adeiladu ar hynny. Rydym hefyd wedi bod yn gallu defnyddio Twf Swyddi Cymru yn llwyddiannus iawn yn y maes hwn, ac mae hynny wedi helpu cyflogwyr i gyflogi gweithwyr ychwanegol. Mae hynny'n amlwg wedi rhoi cyfleoedd profiad gwaith gwerthfawr i bobl ar draws Cymru rhwng 16 a 24 oed.
Rwy’n croesawu'r camau gweithredu ar dlodi bwyd yn arbennig, ac rwy’n falch ei bod hi wedi crybwyll y fenter a gymerwyd yng Nghaerdydd gan Bwyd Caerdydd—y fenter gwyliau ysgol. Un o'r pethau yr wyf yn poeni’n fawr amdano yw gwastraff. Cynhaliais ddadl fer ar wastraff yn ystod y Cynulliad diwethaf, a chafwyd llawer iawn o ddiddordeb gan y cyhoedd. O ganlyniad, cefais ryw fath o sesiynau hyfforddi yn fy etholaeth. Yn amlwg, nid dim ond y cyhoedd sy’n gwastraffu bwyd, ond sefydliadau fel Tesco yn benodol—credaf fod faint o fwyd y mae’n ei wastraffu wedi mynd i fyny 4 y cant yn y flwyddyn hyd at fis Ebrill 2016. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a oedd unrhyw beth y gellid ei wneud i gymell busnesau i beidio â gwastraffu bwyd. Rwy’n gwybod eich bod yn mynd i adolygu'r holl wobrau bwyd—rwy'n credu bod hynny'n rhan o'ch cynllun gweithredu—roeddwn yn meddwl tybed pe gallech gynnwys yn unrhyw un o'r gwobrau bwyd y gwneuthurwyr sy'n atal gwastraff.
Y mater arall, fel rhan o'r ddadl hon, yw fy mod wedi cynnal cyfarfodydd â WRAP Cymru a sefydliadau eraill, a mater arall sy’n bwysig iawn yn fy marn i ar gyfer bwyd yw deunydd pacio bwyd. Rwy'n gwybod ein bod eisiau cael y brand Cymreig ar y pecyn, ond a oes unrhyw beth y gellir ei wneud i geisio lleihau faint o ddeunydd pacio sy'n cael ei ddefnyddio ond gan barhau i gadw nod adnabod y brand Cymreig o hyd?
Diolch i chi, Julie Morgan, am y pwyntiau hynny. Rwy'n credu nad yw’n ymwneud â gwastraff bwyd yn unig; soniais yn fy ateb i Simon Thomas am y llwyth enfawr o wastraff bwyd sy’n bodoli, er bod rhywfaint yn cael ei ailddosbarthu, ac yn amlwg mae rhywfaint yn mynd ar gyfer bwydydd anifeiliaid. Mae hyn hefyd yn ymwneud ag annog busnesau i ddefnyddio adnoddau yn llawer mwy effeithlon nag y maent yn ei wneud ar hyn o bryd. Dydw i ddim yn hollol siŵr am gymell sefydliadau mawr fel Tesco, ond rwy’n credu ei fod yn wirioneddol bwysig ein bod yn gweithio gyda nhw i ddangos, os ydynt yn defnyddio adnoddau yn effeithlon, bod llawer o fanteision i’w busnes eu hunain, bod manteision i Gymru, ac wrth gwrs fod manteision i'r unigolion sy'n byw yng Nghymru. Mae'n ymwneud ag arbed ynni yng Nghymru a bod yn llawer mwy cynaliadwy ac felly’n creu llawer llai o wastraff.
Roedd gen i ddiddordeb mawr yn y cynllun peilot yng Nghaerdydd y llynedd am y newyn gwyliau. Roedd gen i un yn fy etholaeth fy hun, a oedd yn cael ei redeg gan eglwys. O ystyried y nifer o blant sy'n derbyn prydau ysgol am ddim, beth sy'n digwydd yn ystod gwyliau'r ysgol? Mae'n gynllun llwyddiannus iawn sydd wedi'i redeg am tua blwyddyn yn awr, yn Wrecsam, ac rwy'n siŵr bod enghreifftiau ledled Cymru. Ond, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithio, unwaith eto, gyda chwmnïau mawr, efallai archfarchnadoedd mawr, i weld a allwn rywsut ailddosbarthu’r bwyd hwnnw yn y ffordd honno.
Soniais yn gynharach fy mod wedi cyfarfod â'r ASB y bore yma, ac roedd hynny’n rhywbeth y buom yn ei drafod, oherwydd bod yr ASB yn teimlo, efallai, bod rhai o'r archfarchnadoedd mawr ychydig yn ofnus o roi bwyd sydd, o bosibl, yn hen, neu heibio ei ddyddiad ‘gwerthu erbyn’ neu ‘ddefnyddio erbyn’. Felly, unwaith eto, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael hynny’n iawn, yn cael y labelu hwnnw yn iawn, a’r hyn y mae'n ei olygu. Er enghraifft, os mai 'defnyddio erbyn' sydd ar y label, eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau yn ofalus, gan ei fod yn tueddu i fod ar gyfer bwyd sy'n mynd yn ddrwg yn gyflym, ond os oes 'ar ei orau cyn' ar y label, mae hynny’n tueddu i fod ar gyfer bwydydd sydd wedi’u rhewi, wedi'u sychu, neu fwydydd tun, ac nid yw hynny’n ymwneud â diogelwch mewn gwirionedd, mae'n ymwneud yn fwy ag ansawdd, ac mae modd ei ddefnyddio wedi'r dyddiad. Felly, rwy'n credu bod llawer mwy y gallwn ei wneud. Mae gen i ddiddordeb mawr yn y gwaith ymchwil a ddaeth allan o WRAP yng nghyswllt hynny, ond rwy’n meddwl ein bod yn bendant eisiau gweld, wrth inni fynd drwy'r cynllun gweithredu, y gostyngiad hwnnw mewn gwastraff bwyd.
Iawn, diolch. Ac yn olaf, Nick Ramsay.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd am ei datganiad y prynhawn yma ac am gynnig y cynllun gweithredu? Os caf i, fe’ch holaf chi am ddau bwynt yn unig. Yn gyntaf oll, mae hyn fwy na thebyg yn gyfle da i ymuno â Simon Thomas wrth dynnu sylw at y digwyddiad CAMRA yn y Cynulliad nos yfory—digwyddiad poblogaidd bob amser; ni allaf ddychmygu pam. Rwy’n gwybod eich bod yn mynd i fod yn siarad yn y digwyddiad hwnnw, Weinidog, felly diolch ichi am hynny. Mae cwrw go iawn wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Roedd yn edrych fel ei fod ar y ffordd allan 30 neu 40 mlynedd yn ôl, ond mae wedi’i wrthdroi. Sut mae eich cynllun gweithredu chi yn mynd i sicrhau y gellir gwrthdroi mathau eraill o fwyd a diod nad ydynt wedi bod yn gwneud cystal yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf hefyd? Mae'n hawdd iawn cyflwyno cynlluniau gweithredu a siarad am y pethau hyn, ond pa newidiadau cadarnhaol go iawn fydd hynny’n ei wneud?
Yn ail, rydych chi'n iawn i ddyfynnu Cymru fel enghraifft bosibl o arfer gorau. Unwaith eto, sut y mae hynny’n mynd i gael ei gyflawni? Soniasoch am y gwyliau bwyd. Mae gennyf i, wrth gwrs, yn fy ardal i Ŵyl Fwyd wych y Fenni. Roedd y Gweinidog emeritws, Alun Davies, draw acw, mewn bywyd gweinidogol blaenorol, yn arfer mwynhau’r ŵyl yn fawr. Rwy'n siŵr y byddwch chi yn ymuno â mi—ac ef hefyd, mae'n debyg—yn yr ŵyl hon yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod arferion gorau yn cael eu lledaenu o wyliau bwyd? Rydym yn siarad am Ŵyl Fwyd y Fenni yn awr fel stori lwyddiant, ond fe aeth drwy rai cyfnodau anodd hefyd. Mae gwyliau bwyd eraill, yn fawr a bach, a marchnadoedd ffermwyr, yn ceisio sefydlu ar draws Cymru ac yn ceisio gwella. Byddai'n hawdd iawn pe byddai arfer gorau yn cael ei ledaenu o un ardal i'r llall fel bod modd i wyliau sy’n datblygu osgoi gwneud yr un camgymeriadau â gwyliau blaenorol.
Diolch. Ie, dwi'n gwybod bod yr Aelod yn noddi'r digwyddiad CAMRA, ac rwy’n edrych ymlaen at fynd yno a siarad yno nos yfory.
Rydych chi'n hollol iawn am gwrw. Bûm i mewn gŵyl seidr a chwrw, ac rwy’n credu mai dyna oedd fy ymrwymiad cyntaf yn y portffolio hwn. Fel rhywun nad yw fel arfer yn yfed cwrw, roeddwn i wedi fy synnu o weld faint o fathau gwahanol o gwrw oedd yno. Ceisiais arllwys un, ond ddim yn dda iawn yn anffodus. Rwy’n meddwl eich bod yn iawn: mae'n ymwneud ag edrych ar y sectorau o fewn y sector bwyd a diod yn ei gyfanrwydd nad ydynt yn gwneud cystal, ond nid wyf yn meddwl bod cwrw yn faes nad yw’n gwneud cystal. Rwy'n credu ein bod wedi rhoi cefnogaeth iddynt, ac rydym yn gweld nifer o ficrofragdai yn ymddangos ledled Cymru.
O ran arfer gorau, byddwch wedi fy nghlywed yn siarad yn fy holl bortffolios gweinidogol am yr angen am arferion gorau. Rwy'n credu ei fod yn deithiwr anhygoel. Mae pobl yn dweud nad yw'n teithio’n dda; rwy’n anghytuno, gan ei fod yn rhywbeth y gallwch ei ddwyn. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fynd i'r gwyliau bwyd dros y misoedd nesaf, gan ddechrau, yn amlwg, gyda Sioe Frenhinol Cymru, sef y sioe wledig orau sydd gennym yn y DU, yn fy marn i, ac yna mynd i'r gwyliau bwyd, dysgu fy hun, gwrando ar y bobl sy'n cynnal y gwyliau hyn a gweld beth y gallwn ni ei gymryd. Os oes gŵyl fwyd sy'n teimlo y gallai elwa o brofiadau gŵyl fwyd arall, byddwn yn hapus iawn i sicrhau bod swyddogion yn cyfleu hynny.
Yng Nghymru, mae gennym gymaint o gynnyrch yn awr sydd â statws gwarchodedig Ewropeaidd, ac mae gennym ragor eto yn dod i’r amlwg. Soniais, mewn ateb i Simon Thomas, am ham Caerfyrddin, ac mae gennym tua 10 o geisiadau yn y DU, naw ohonynt yn dod o Gymru. Felly, mae hynny'n dangos ein bod mewn gwirionedd yn cyflawni'n well na'r disgwyl.
Diolch yn fawr iawn, a daw hynny â’n trafodion i ben am heddiw.