Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 22 Mehefin 2016.
Weinidog, rwyf wedi gofyn i chi o’r blaen am fanteision cymunedol cynlluniau ynni adnewyddadwy. Rwyf am ofyn i chi eto am ei fod yn fater pwysig iawn i fy etholwyr. Pan oedd fferm solar yn cael ei chynllunio yn Llanfable rhwng Trefynwy a’r Fenni yn fy ardal, fe’i gwrthwynebwyd gan bobl leol. Ar ôl i’r cynllun gael ei basio, daethant i wybod yn ddiweddarach eu bod wedi colli’r cyfle i lobïo dros y buddion cymunedol sydd fel arfer yn gysylltiedig â chynlluniau o’r fath, ac nid yw’r cwmni dan sylw wedi ymateb rhyw lawer i’w hymholiadau. Rwy’n sylweddoli bod yna agwedd ar hyn sydd heb ei datganoli, ond a wnewch chi ddweud wrthyf ym mha ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cryfhau’r gweithdrefnau a’r canllawiau hyn fel na all cwmnïau osgoi darparu buddion cymunedol gwerthfawr pan fo cynlluniau’n cael eu hadeiladu mewn cymunedau?