Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 22 Mehefin 2016.
Ie, os ydym am sicrhau bod gennym y prosiectau cymunedol hyn, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn fod pobl yn deall eu manteision—ei fod yn real iawn iddynt, a’u bod yn gallu cymryd rhan ynddo. Felly, byddaf yn sicr yn edrych ar hynny. Rwy’n credu fy mod eisoes wedi dechrau edrych ar hynny. Y tro cyntaf i chi ddwyn y mater i fy sylw, gofynnais i swyddogion. Fel y dywedwch, mae rhan o hyn wedi’i gadw’n ôl, ond unwaith eto, byddaf yn hapus iawn i gyflwyno sylwadau i’r Gweinidog perthnasol yn Llywodraeth y DU.