Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 22 Mehefin 2016.
Rwy’n siŵr eich bod yr un mor bryderus â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, ynglŷn â’r dystiolaeth wyddonol gynyddol sy’n dangos bod gronynnau diesel yn peri risg sylweddol iawn i iechyd y cyhoedd. Rydym wedi arfer sôn am beryglon ysmygu goddefol, er enghraifft, ond mae’n fwy na thebyg fod y gronynnau hyn yn creu perygl mwy difrifol i ystod eang o’r boblogaeth. Pa fesurau sy’n cael eu cynllunio i wella ansawdd aer o ganlyniad i’r dystiolaeth hon?