Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 22 Mehefin 2016.
Wel mae hyn yn rhan o’r holl beth rwy’n edrych arno mewn perthynas ag ansawdd aer, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod gan awdurdodau lleol ddyletswyddau, yn amlwg, o dan y gyfundrefn rheoli ansawdd aer lleol, a gwn fy mod wedi cael fy lobïo gan Aelodau Cynulliad mewn ardaloedd penodol, yn gynnar iawn yn y portffolio, ynglŷn ag ardaloedd penodol mewn awdurdodau lleol penodol. Yr hyn rwyf wedi’i wneud yw gofyn i swyddogion fonitro awdurdodau lleol yn ofalus iawn er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau i gynhyrchu cynllun gweithredu ar gyfer ansawdd aer, er mwyn i ni allu edrych i weld pa fesurau penodol y mae pob un ohonynt yn eu gwneud, ac yn amlwg bydd yr ymchwil wyddonol rydym yn ei chael yn awr mewn perthynas â diesel yn rhan o hynny.