Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 22 Mehefin 2016.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol bod £3.7 miliwn wedi’i wario ers 2011 ar frechu moch daear yn yr ardal triniaeth ddwys yn fy etholaeth, ac yn amlwg mae’r polisi brechu wedi methu. Nawr, mae’r adroddiad gwyddonol diweddaraf yn dangos cynnydd o 78 y cant yn nifer y gwartheg a laddwyd yn Sir Benfro o ganlyniad i TB mewn gwartheg. O ystyried y cynnydd yn nifer y gwartheg a laddwyd yn fy ardal, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa drafodaethau y mae’n bwriadu eu cael gyda ffermwyr yn Sir Benfro? A charwn ei hannog i gyflwyno datganiad cyn yr hydref, gan fod ffermwyr yn awyddus i wybod beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar y mater hwn.