Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 22 Mehefin 2016.
Wel, rwy’n credu bod ffermwyr yn ymwybodol iawn o’n polisi ar y mater hwn. Rwyf eisoes wedi cyfarfod â ffermwyr. [Torri ar draws.] Fel y dywedais, rydym yn ymrwymedig iawn i ddarparu dull gwyddonol o ddileu TB mewn gwartheg. Ymddangosodd yr ystadegau yr wythnos diwethaf: maent wedi dangos sefyllfa sy’n gwella ar draws Cymru dros y chwe blynedd diwethaf. Mae’r nifer o achosion newydd o TB wedi gostwng yn sylweddol ers 2009. Mae gennym adolygiad o’r strategaeth gan Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol, ac rwy’n disgwyl argymhellion drafft er mwyn adnewyddu’r strategaeth a strategaeth newydd yn ddiweddarach y mis hwn, a byddaf yn gwneud datganiad yn yr hydref.