<p>Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 22 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:53, 22 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, yn amlwg, mae Caerdydd wedi cyflwyno eu CDLl. Rwy’n gwybod ei fod yn gydbwysedd bregus iawn rhwng bod awdurdodau lleol yn gwneud trefniadau ar gyfer tai a gwasanaethau ar gyfer poblogaeth sy’n tyfu, ac amddiffyn y pwyntiau rydych newydd eu crybwyll. Rwy’n credu bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yno, a gallwn weld yr amcanion yn glir iawn, a chyfrifoldeb fy swyddogion yw gwneud yn siŵr eu bod yn monitro’r holl Gynlluniau Datblygu Lleol a ddaw i law. Rwy’n credu ein bod yn dal i aros am chwech ohonynt ledled Cymru, er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd ag amcanion y Ddeddf.