Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 22 Mehefin 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae proses y CDLl yn amlwg yn destun dadlau mawr mewn sawl ardal a dyna hefyd yw’r sail a ddefnyddir i ddatblygu, ysgogi ac adfywio ardaloedd mawr yn ogystal. Ond mae un o’r materion mwyaf dadleuol yn fy rhanbarth etholiadol i, sef Canol De Cymru, yn ymwneud â’r amcanestyniadau tai y mae cynghorau yn eu defnyddio i benderfynu ar eu dyraniadau CDLl. Daw’r amcanestyniadau hynny gan Lywodraeth Cymru. Wrth i chi edrych yn gyntaf ar yr amcanestyniadau hyn a ddarperir ar ran Llywodraeth Cymru i’r awdurdodau lleol, sut y teimlwch ynglŷn â bwrw ymlaen â’r broses hon? A ydych yn fodlon fod yr amcanestyniadau hynny’n gadarn, neu a oes angen ailedrych arnynt, a’u hailwerthuso yn y pen draw, yn sgil rhai o’r sylwadau a wnaed gan gynghorau yn fy rhanbarth etholiadol yng Nghanol De Cymru?