<p>Y Cynllun Datblygu Gwledig</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 22 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 2:01, 22 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Weinidog, buaswn yn cymeradwyo sylwadau’r siaradwr gwreiddiol ar hyn ynglŷn â chyflymder rhyddhau’r arian o’r cynllun datblygu gwledig i’r gwahanol gynlluniau. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech ymhelaethu ar rai o’ch sylwadau yn yr ateb diwethaf a dweud: a ydych yn fodlon ar y cyflymder sy’n cael ei ddatblygu y tu ôl i’r cynllun datblygu gwledig i greu’r agenda drawsnewidiol rydych yn sôn amdani? Oherwydd mae pobl yn cefnogi llawer o’r teimladau, ond buaswn yn awgrymu bod yna dagfa enfawr yn y system o brosesu ceisiadau i’r Cynllun Datblygu Gwledig, ac yn anad dim, o ran bod pobl yn cael mynediad at yr arian yn y lle cyntaf. Felly, beth yw eich asesiadau cychwynnol, o ystyried eich bod wedi bod yn y swydd ers sawl wythnos bellach?