Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 22 Mehefin 2016.
Wel, ym mis Mai y llynedd y cafodd ei gymeradwyo, felly ychydig dros flwyddyn yn unig sydd wedi bod. Rydym wedi agor 15 o gynlluniau: agorais gynllun pellach yr wythnos diwethaf. Mae gennym dros £260 miliwn o gyllid wedi’i ymrwymo ar draws pob sector. Felly, fel rwy’n dweud, rwy’n credu bod potensial aruthrol ar gyfer y sector. Rwyf eisiau gweithio’n iawn ar y mentrau strategol hynny ar draws y sector. Mae’n debyg y gallwn bob amser wneud pethau’n gyflymach, ond nid wyf am weld tagfeydd ac rwyf eisiau gweld yr arian allan yno cyn gynted â phosibl, ac rwyf wedi addo gwneud hynny.