Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 22 Mehefin 2016.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Yr A472 yng Nghrymlyn: yn ôl data’r Llywodraeth, y lefelau o nitrogen deuocsid a gofnodwyd yma yw’r rhai uchaf a gofnodwyd yn y DU y tu allan i Lundain. Yr unig le y gwelir lefelau uwch yn Lloegr yw ar fonitor tebyg ar Marylebone Road yng nghanol Llundain, ac yn ôl Asthma UK Cymru, mae 314,000 o bobl yn dioddef o asthma yng Nghymru, gan gynnwys 59,000 o blant: bron un o bob 10 plentyn. Mewn adroddiad gan GIG Cymru a Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn 2015, nodwyd bod canran y cleifion y cofrestrwyd gan eu meddyg teulu eu bod yn dioddef o asthma a COPD, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, yn uwch nag yn Lloegr, a bod rhywfaint o gynnydd wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf. Pa gamau brys y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a rhanddeiliaid eraill i gael gwared ar broblem llygredd aer?