<p>Ansawdd Aer</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 22 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:04, 22 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae fy swyddogion wedi ceisio sicrwydd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili mewn perthynas ag ardal rheoli ansawdd aer yr A472 ger Crymlyn a grybwyllwyd gennych, o ran y camau y maent yn bwriadu eu cymryd i wella ansawdd aer yn lleol. Mae’r cyngor yn trefnu cyfarfod grŵp llywio fis nesaf, fel rydych yn gwybod mae’n siŵr, a byddant yn cael mewnbwn gan grwpiau lleol a thrigolion lleol, ac rwy’n credu bod hynny’n wirioneddol bwysig. Wedyn, maent am sicrhau bod cynllun gweithredu ansawdd aer yn cael ei ddatblygu. Bydd hynny hefyd yn cynnwys rhestr o opsiynau rheoli traffig ar gyfer yr ardal er mwyn mesur ansawdd aer yn yr ardal. Mae’r cyngor wedi rhoi dyddiad cychwynnol i ni ar gyfer gweithredu hyn, sef mis Tachwedd, ond rwyf wedi gofyn i swyddogion fonitro hynny’n ofalus iawn i sicrhau eu bod yn cadw at yr amserlen honno.