Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 22 Mehefin 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol fod yr Ymddiriedolaethau Natur wedi lansio strategaeth hyrwyddwyr rhywogaethau yn ddiweddar. Rwyf fi ac Aelodau eraill o’r Cynulliad yn hyrwyddo rhywogaethau yng Nghymru. Llygoden y dŵr—[Torri ar draws.]—yw fy rhywogaeth benodol i, ond bydd llawer o rai eraill yn helpu gyda’r ymdrechion. Ond a fyddech yn cytuno, Ysgrifennydd y Cabinet, fod angen i ni ddiogelu ein bioamrywiaeth a’r rhywogaethau hyn, gan gynnwys llygod y dŵr, ar wastadeddau Gwent, ac un agwedd ar hynny yw ymgysylltu â phobl leol a phlant lleol? Mae ysgolion wedi’u swyno’n fawr gan lygod y dŵr ac mae’n arwain at werthfawrogiad gwell o fioamrywiaeth a natur. Felly, rwy’n credu bod llawer o agweddau ar strategaeth Llywodraeth Cymru y gellir eu hyrwyddo drwy’r cynllun hwn.