Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 22 Mehefin 2016.
Roeddwn yn falch iawn o weld hynny yr wythnos diwethaf. Cefais gynnig y draenog, ond penderfynais y buaswn yn hyrwyddo holl fioamrywiaeth Cymru. [Torri ar draws.] Roeddwn yn tybio efallai ei fod braidd yn bigog. [Chwerthin.] Ond rwy’n cefnogi rôl hyrwyddwyr rhywogaethau. Rwy’n credu ei bod yn fenter wirioneddol dda, gan y bydd yn tynnu sylw at bwysigrwydd rhywogaethau, eu hanghenion cynefin, a’r rhan gwbl hanfodol y maent yn ei chwarae mewn ecosystemau iach, gweithredol.
Rwy’n credu bod hyn yn rhan annatod o ymagwedd ehangach y mae angen i ni ei chael mewn perthynas â rheoli ein hadnoddau yn gynaliadwy, ac rydych yn hollol gywir am ysgolion a phlant ifanc a phlant yn eu harddegau. Rwy’n credu nad oes ond angen i chi edrych ar y ffordd y mae ailgylchu—. Rwy’n credu bod hynny wedi mynd i mewn i’r ysgolion yn gynnar iawn, ac yn awr i’r plant hynny, wrth iddynt dyfu, mae ailgylchu yn rhan o’u bywydau bob dydd. Felly, os gallwn ddechrau eu hannog yn ifanc, credaf ei fod yn syniad da iawn, ac mae’r Gweinidog addysg yn y Siambr ac yn clywed hyn, felly rwy’n siŵr y bydd hi’n ystyried hynny, hefyd.