Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 22 Mehefin 2016.
Fel hyrwyddwr rhywogaeth y wiwer goch yng Nghymru, rwy’n falch iawn fod un o’r poblogaethau mwyaf o wiwerod coch yng nghoedwig Clocaenog yn fy etholaeth. Fe fyddwch yn gwybod bod gwaith coedwigaeth yn cael ei reoli gan sefydliad a ariennir gan y trethdalwr, Cyfoeth Naturiol Cymru. Pa waith rydych yn ei wneud i sicrhau, lle mae yna dir sy’n eiddo cyhoeddus, ei fod yn hyrwyddo bioamrywiaeth ac yn benodol, poblogaeth y wiwer goch?