Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 22 Mehefin 2016.
Diolch. Roedd hwn yn ddigwyddiad o lygredd dŵr difrifol a achoswyd gan gyfaint anhysbys o fiswail fferm yn llifo i mewn i gwrs dŵr o fferm leol, gan ladd 380 o bysgod. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried camau gorfodi ffurfiol yn dilyn adolygiad o ffeithiau’r achos a ffactorau budd y cyhoedd.