<p>Llif Biswail</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 22 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 2:12, 22 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet, ac fel y dywedwch, amcangyfrifiwyd bod nifer fawr o bysgod wedi’u lladd. Ond un digwyddiad yn unig yw hwn, neu’r digwyddiad diweddaraf, ar y rhan honno o’r dŵr, ac nid dyma’r tro cyntaf y cafwyd digwyddiad o’r fath. Cafwyd digwyddiad arall pan ollyngodd tua 10,000 galwyn o fiswail i nant yn nyffryn Tywi ym mis Mawrth 2015. Wrth gwrs, rwy’n croesawu’r ffaith fod swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio i ffynhonnell y biswail a hefyd mae’r llygredd hwnnw bellach wedi dod i ben, ond fy nghwestiwn i chi yw: pa asesiad a wnaed, neu a fydd yn cael ei wneud, o ran yr effaith ar adferiad hirdymor y rhan honno o’r dŵr? Ac a allwch hefyd gadarnhau pa waith sy’n cael ei wneud i leihau’r tebygolrwydd y bydd gollyngiadau biswail tebyg yn digwydd yn y dyfodol, yn ogystal â sicrhau bod y rhai sy’n niweidio ein hamgylchedd gwych yn cael eu dwyn i gyfrif am wneud hynny?