Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 22 Mehefin 2016.
Diolch. Fe wyddom y bydd yr ocsid nitraidd mewn pysgod yn effeithio ar niferoedd wyau yn y dyfodol, ond y gobaith yw y bydd yr afon yn adfer yn naturiol ymhen amser. Soniais fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda’r ffermwr i weithredu mesurau atal llygredd—er mwyn gwella’r seilwaith ar y fferm a lleihau’r tebygolrwydd o ddigwyddiadau pellach o lygredd. Maent wedi casglu tystiolaeth mewn ymateb i’r digwyddiad, ac fel rwy’n dweud, maent yn ymchwilio ac yn penderfynu pa gamau pellach a roddir ar waith. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda’r diwydiant i ddatblygu rhaglen i sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau. Mae angen i ni hefyd edrych i weld a oes unrhyw beth sydd angen i ni ei wneud yma, boed yn ddeddfwriaethol neu anneddfwriaethol, i gynorthwyo yn y dyfodol.