Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 22 Mehefin 2016.
Bydd e’n hysbys i’r Ysgrifennydd bod Cymru’n derbyn £2.4 biliwn o’r cronfeydd strwythurol yn y cyfnod presennol, rhyw chwarter o’r cyfan ar gyfer y Deyrnas Unedig a mwy na’r holl gynulliadau datganoledig eraill—yr Alban, Gogledd Iwerddon a Llundain—gyda’i gilydd. A ydy’r Ysgrifennydd yn cytuno gyda fi fod hyn yn adlewyrchu un o werthoedd craidd y prosiect Ewropeaidd, sef cydlyniad—’solidarity’—rhwng gwledydd a rhanbarthau y Gymuned Ewropeaidd, o ddefnyddio’i henw gwreiddiol, a bod hyn yn cymharu’n anffafriol i’r eithaf gydag agwedd Llywodraethau y Deyrnas Unedig, boed hynny Llywodraeth Thatcher, a gafodd wared ar bolisi rhanbarthol fel un o’i gweithredoedd cyntaf yn 1979, neu Lywodraeth Tony Blair, a wrthododd arian matsio ar gyfer rhaglen Amcan 1 nes i’r Senedd yma wrthryfela drwy ddiorseddu Alun Michael? Onid ffolineb hunanddinistriol fyddai i’r wlad fach Ewropeaidd hon roi tameidyn o ffydd ym mandariniaid Whitehall neu feistri Westminster i ofalu am ddyfodol ein cymunedau?