<p>Dyfodol Mentrau Adfywio Cymunedol</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 22 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:17, 22 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n credu y dylai pobl y DU a phobl Cymru fod yn glir iawn yfory—mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir iawn ein barn fod bod yn rhan o’r UE yn hanfodol ar gyfer ffyniant Cymru. Os yw’r DU yn pleidleisio dros adael, rydym yn asesu y bydd cymunedau Cymru yn waeth eu byd. Mae angen buddsoddiad busnes a gweithlu medrus i gymunedau allu ffynnu. Felly, gadewch i ni beidio â dibrisio grym y bleidlais yfory dros aros i mewn er mwyn sicrhau buddsoddiad a dyfodol Cymru—mae’n bleidlais bwysig.