Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 22 Mehefin 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae llawer o brosiectau adfywio cymunedol yn fy etholaeth wedi cael eu cefnogi gan gyllid yr UE, o Lansawel a Sandfields i ddyffryn Afan. Maent yn amrywio o gynorthwyo pobl yn ôl i waith i adeiladu canolfannau ar gyfer gweithgareddau cymunedol. Mae’r rhain wedi bod yn hanfodol i gryfhau’r cymunedau hynny. Fodd bynnag, mae llawer yn awr yn wynebu heriau pellach o ganlyniad i galedi gan Lywodraeth y DU, a bydd colli cyllid yr UE yn taro ein cymunedau mwyaf agored i niwed yn galetach hyd yn oed. A ydych yn cytuno bod y bleidlais i aros yfory yn bleidlais a fydd yn helpu ein cymunedau i gymryd cam mwy cadarnhaol ymlaen?