<p>Amddiffyniad Cosb Resymol</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 22 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:20, 22 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi ein bwriad i gyflwyno deddfwriaeth i ddileu’r amddiffyniad ‘cosb resymol’, a fydd yn cadarnhau ein hymrwymiad hirsefydlog i hawliau plant. Bydd trafodaethau’n cael eu cynnal â’r wrthblaid a bydd y ddeddfwriaeth arfaethedig yn amodol ar y broses ddeddfwriaethol, gan gynnwys ymgynghori â rhieni a rhanddeiliaid.