Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 22 Mehefin 2016.
Diolch, Weinidog, am yr ateb. Byddwch yn gwybod, Weinidog—o’r profiad gawsom ni yn y Cynulliad diwethaf pan oedd, rwy’n meddwl, y mwyafrif ar draws y pleidiau am gael gwared ar yr amddiffyniad yma—nad oedd modd cyflawni hynny yn y ffordd yr aed o’i chwmpas hi gan y Llywodraeth ac yn y ffordd y mae deddfwriaeth yn gweithio yma. Tra fy mod yn derbyn yn llwyr bod yn rhaid—wel, dim bod yn rhaid, ond, yn y cyd-destun yma, ei bod yn briodol—i’r Llywodraeth gynnig deddfwriaeth inni ei thrafod, ym mha ffordd y gallai’r Llywodraeth adeiladu’r consensws trawsbleidiol yna i sicrhau bod unrhyw ddeddfwriaeth yn llwyddo a’n bod yn gallu delifro ar y ‘commitment’ yma?