<p>Amddiffyniad Cosb Resymol</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 22 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:22, 22 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i Julie Morgan, a fu’n ymgyrchu ers amser maith ar yr union fater hwn, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda hi hefyd. Os asesir cymhwysedd ar sail y gwelliannau a wneir i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 gan Fil Cymru fel y mae wedi’i ddrafftio ar hyn o bryd, nid yw’r ddadl fod darpariaeth ynglŷn â smacio plant y tu allan i gymhwysedd am ei fod yn diwygio’r gyfraith droseddol yn debygol o fod yn broblem mwyach. Mae materion eraill sy’n berthnasol i gymhwysedd, fodd bynnag, megis i ba raddau y mae’n cyd-fynd â’r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, a fydd yn aros yr un fath. Mae’r rhain i gyd yn faterion cymhleth yn gyfreithiol, ond rydym yn gweithio drwyddynt ac yn gweithio gyda phartneriaid i gyflawni’r canlyniad cadarnhaol y mae’r Aelod yn gobeithio’i gael.