Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 22 Mehefin 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn derbyn bod llawer o rieni sy’n caru eu plant yn defnyddio ychydig bach o gosb resymol fel modd o ddisgyblu eu plant, ac y gall defnydd gormodol o ffurfiau eraill ar ddisgyblaeth hefyd fod yr un mor gamdriniol i blant o’u defnyddio’n anghywir? Pa gamau rydych yn eu cymryd fel Llywodraeth i sicrhau ffocws ar sgiliau rhianta cadarnhaol a’u bod yn cael eu hegluro ar draws y wlad i roi cyfle i rieni sy’n defnyddio cosb resymol allu defnyddio dulliau eraill o geryddu? Gwn fod rhywfaint o waith wedi’i wneud ar hyn yn y gorffennol ac rwy’n gobeithio’n fawr y byddwch yn ceisio ymestyn y rhaglen rhianta cadarnhaol i bob rhan o Gymru yn y dyfodol.