<p>Amddiffyniad Cosb Resymol</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 22 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:24, 22 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Gadewch i ni fod yn glir iawn yma: nid yw hyn yn ymwneud â deddfwriaeth i droseddoli rhieni. Yr hyn rydym eisiau ei wneud yma yw rhoi cyfle i bobl gael profiadau rhianta cadarnhaol. Fel Llywodraeth, byddwn yn darparu pecyn o adnoddau a fydd yn annog rhieni i ddefnyddio Teuluoedd yn Gyntaf, Dechrau’n Deg, yr ymgyrch ‘Rhowch amser iddo’—mae nifer o rai eraill—y ceisiwn ddatblygu cymhwysedd yn eu cylch er mwyn rhoi hyder i rieni ynglŷn â’r ffordd y mae eu teuluoedd yn tyfu i fyny. Ar wahân i hynny, byddwn hefyd yn cyflwyno deddfwriaeth ar amddiffyniad cosb resymol. Byddwn yn cyflwyno pecyn o adnoddau i’r Siambr, nid dewis rhwng un neu’r llall.