Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 22 Mehefin 2016.
Diolch i Steffan Lewis am ei gwestiwn. Nid wyf wedi clywed y term ‘nawdd cymdeithasol’ yn cael ei ddefnyddio ers cryn dipyn o amser, mewn gwirionedd, ond diolch iddo am ei gwestiwn. Drwy weithio gydag ystod eang o randdeiliaid, rydym yn parhau i drafod ac asesu effaith sylweddol diwygiadau lles Llywodraeth y DU yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru, ar sawl achlysur, wedi cyflwyno sylwadau i Weinidogion y DU, gan godi materion sy’n peri pryder pan fo’n amlwg y bydd pobl sy’n agored i niwed yn cael eu rhoi dan anfantais bellach.