Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 22 Mehefin 2016.
Diolch iddo am yr ateb hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru, fesul cam, yn dod yn gyfrifol am fwy a mwy o elfennau o ddiogelwch cymdeithasol, os caf ddefnyddio term retro arall, o gymorth gyda’r dreth gyngor i’r gronfa taliadau yn ôl disgresiwn a’r Rhaglen Waith. Er gwaethaf hynny, fodd bynnag, mae dinasyddion yn y wlad hon yn dal i ddioddef yn sgil effeithiau polisïau lles atchweliadol a chosbol o Whitehall. Fel y mae wedi crybwyll ar sawl achlysur y prynhawn yma, nid oes ganddo lawer o ddulliau yn ei feddiant yn y maes hwn. Gan fod y maes polisi hwn yn biler mor hanfodol ym mholisi cyhoeddus Cymru, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i gyhoeddi rhaglen ar wahân sy’n amlinellu sylfeini gwladwriaeth les i Gymru, a fyddai’n cynnwys y cyfeiriad teithio ar gyfer polisi gyda’r setliad datganoli cyfredol, yn ogystal â gweledigaeth ar gyfer lles yng Nghymru yn sgil trosglwyddo pwerau diogelwch cymdeithasol pellach yma?