Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 22 Mehefin 2016.
Weinidog, byddwch wedi gweld bod y Cenhedloedd Unedig wedi cyhoeddi adroddiad damniol yn ddiweddar ar effaith mesurau caledi Llywodraeth y DU ar dlodi plant yn y DU. Yn wir, fe’i disgrifiwyd gan y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant fel darllen
Cyhuddiad o fethiant y llywodraeth i roi blaenoriaeth i blant yn ei phenderfyniadau ar nawdd cymdeithasol.
A ydych yn rhannu fy mhryderon ynglŷn â hynny? A wnewch chi ddwyn y pryderon hynny i sylw’r gweinidog cyfatebol yn San Steffan? Ond ar ben hynny, a ydych hefyd yn rhannu fy mhryderon, os ydym yn pleidleisio dros adael yr UE yfory, y bydd yr effaith ar ein heconomi yn golygu bod plant yn debygol o ddwyn mwy fyth o faich polisïau caledi’r DU?