Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 22 Mehefin 2016.
Yn wir, ac mae’r Aelod yn iawn i godi’r mater. Deddfodd y Llywodraeth hon y llynedd ynglŷn â llesiant cenedlaethau’r dyfodol a sicrhau bod pobl ifanc wrth wraidd ein penderfyniadau wrth i ni symud ymlaen, gan gynllunio ar gyfer y tymor hir. Rwy’n meddwl mai’r hyn a fydd yn digwydd wrth i swm yr arian gael ei leihau—ac mae refferendwm yr UE yn berthnasol iawn i hyn—yw y bydd yn effeithio ar ein lles economaidd a bydd yn effeithio ar deuluoedd, a phlant yn bennaf. Mae’n rhywbeth y dylem i gyd fod yn ofalus iawn yn ei gylch.