Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 22 Mehefin 2016.
Canfu gwaith ymchwil diweddar gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid fod credyd cynhwysol yn gwneud llawer i helpu i wneud i waith dalu i lawer o’r rheini sydd ar hyn o bryd yn wynebu’r datgymhellion mwyaf difrifol. Aethant ymlaen i ddweud y bydd nifer y bobl sy’n wynebu cymhellion gwan iawn i gael gwaith yn gostwng dwy ran o dair. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â’r sefydliad pan ddywed: dylai credyd cynhwysol wneud y system yn haws ei deall, lleddfu’r broses o bontio rhwng bod mewn gwaith a bod allan o waith, a chael gwared i raddau helaeth ar y datgymhellion mwyaf eithafol i weithio neu i ennill mwy a grëwyd gan y system bresennol?