<p>Newidiadau i Nawdd Cymdeithasol</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 22 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:42, 22 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae’n rhywbeth y cefais fy rhybuddio yn ei gylch gan fy swyddogion pan ddeuthum yn Ysgrifennydd y Cabinet. Yr Adran Gwaith a Phensiynau sy’n gyfrifol am lwfans tai lleol, sy’n fater heb ei ddatganoli, fel y mae’r Aelod yn gwybod. Ond mae hyn, unwaith eto, yn adlewyrchiad o’r hyn a ddywedais yn gynharach; y ffaith amdani yw bod Llywodraeth y DU yn gwneud newidiadau i’r wladwriaeth les, ac mae’r newidiadau hynny’n effeithio ar wasanaethau datganoledig. Felly, nid yw hyn yn cael gwared ar y pwysau yn y system—dim ond symud y pwysau. Yr hyn sy’n anffodus am hyn yw bod pobl yn rhan o’r broses gyfan. Mynegodd Llywodraeth Cymru bryderon ynglŷn â’r newidiadau hyn wrth Weinidogion y DU ar y pryd, ac rydym yn parhau i dynnu sylw Llywodraeth y DU at fater asesiadau effaith.