Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 22 Mehefin 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, efallai y byddwch yn ymwybodol o adroddiad diweddar gan Ganolfan ar gyfer Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Rhanbarthol Prifysgol Sheffield Hallam. Roeddent yn tynnu sylw at effaith anghymesur toriadau i fudd-daliadau lles ar bobl Cymru o’i gymharu â’r DU yn ei chyfanrwydd—credaf mai dyna’r pwynt sydd eisoes wedi cael ei wneud—ac mae hyn hyd yn oed yn fwy amlwg yn y Cymoedd. Mae’n nodi y bydd y newid arfaethedig i’r lwfans tai lleol yn gwaethygu’r anghydraddoldebau hyn drwy effeithio fwyaf ar yr ardaloedd mwyaf difreintiedig eisoes, a’r pwynt cyfeirio ar gyfer gosod cyfradd y Lwfans Tai Lleol fydd 30 y cant isaf y rhenti sector preifat, mewn ardal lle mae rhenti sector preifat eisoes yn isel iawn. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet nodi pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael i sicrhau nad yw’r rhai sy’n cael lwfansau tai lleol yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru o dan anfantais anghymesur ar sail y cyfrifiad o’r rhent cyfartalog a fydd yn pennu’r Lwfans Tai Lleol?