<p>Mynd i’r Afael â Thlodi</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 22 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:46, 22 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am hynny. Roedd adroddiad y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol ar wella cyfleoedd bywyd yn annog Llywodraeth y DU i ystyried y pum prif lwybr at dlodi—chwalfa deuluol, diweithdra, dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol, dyled bersonol ddifrifol a methiant addysgol—ac yn dilyn hynny lansiodd Llywodraeth y DU ei strategaeth cyfleoedd bywyd. Mae hon yn dechrau gyda’r gred sylfaenol nad beichiau i’w rheoli yw pobl sy’n byw mewn tlodi, fod pob person yn ased i’w wireddu ac y dylid meithrin potensial pobl. Os ydych yn cytuno â hynny, ac rwy’n gobeithio eich bod, a wnewch chi edrych ar y dystiolaeth a chwilio am wybodaeth i weld a allech, a sut y gallech gyflwyno strategaeth cyfleoedd bywyd wedi’i gwneud yng Nghymru ar gyfer Cymru?