Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 22 Mehefin 2016.
Gan weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd yng nghylch gwaith Rebecca Evans, efallai fod gennym strategaeth hyd yn oed yn well yma, ac rwy’n gwahodd yr Aelod i daro golwg ar y rhaglen profiadau niweidiol yn ystod plentyndod y maent eisoes yn ei datblygu. Soniais yn gynharach am fy adran a sut rydym yn gosod y naratif ar gyfer dylanwadu ar newid a chydnerthedd cymunedol. Bydd un o’r heriau hynny’n ymwneud â chyflawniad y rhaglen profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a sicrhau bod y materion y mae’r Aelod yn eu crybwyll ynglŷn â thrais yn y cartref, camddefnyddio alcohol a chyffuriau, rhieni’n gwahanu ac eraill—. Sut y gallwn ymyrryd ar y pwynt hwnnw yn gynnar mewn bywyd i gynorthwyo teuluoedd wrth iddynt dyfu i fyny? Rwy’n gyfarwydd â’r rhaglen cyfleoedd bywyd, ond rwy’n meddwl bod gennym gynnyrch gwell wedi’i wneud yng Nghymru.