<p>Mynd i’r Afael â Thlodi</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 22 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 2:48, 22 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r 1,000 diwrnod cyntaf yn hanfodol ar gyfer datblygiad iaith ac ar gyfer darllen ac addysg a datblygiad cyffredinol, a cheir ystadegau sy’n dangos bod plant sy’n byw mewn tlodi parhaus ddwywaith yn fwy tebygol o sgorio’n is na’r cyfartaledd mewn perthynas â chaffael iaith yn bump oed na’u cyfoedion mwy cefnog. Mae materion a nodwyd ar gyfer ymdrin â hyn yn cynnwys buddsoddi mewn ansawdd yng ngweithlu addysg y blynyddoedd cynnar, cefnogi rhieni’n well ac yn wir, arweinyddiaeth yn gyffredinol. Beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran trechu tlodi drwy fynd i’r afael â’r materion hyn yn ymwneud â datblygiad a chaffael iaith yn y blynyddoedd cynnar yn benodol?